Newyddion S4C

Apêl am wybodaeth wedi i gerbydau gael eu rhoi ar dân yn Wrecsam

27/08/2024
Yr Heddlu

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud eu bod yn apelio am wybodaeth wedi i gerbydau gael eu rhoi ar dân yn bwrpasol yn ardal Wrecsam. 

Cafodd y llu wybod gan y gwasanaeth tân fod fan wedi cael ei rhoi ar dân yn ardal Rhiwabon am tua 01.15 fore Sul diwethaf. 

Daw hynny ddiwrnod yn unig wedi i gar arall gael ei roi ar dân yn ardal Rhos am tua 12.36 fore Sadwrn diwethaf. 

Cafodd y llu wybod am ddau gar arall a gafodd eu rhoi ar dân yn ardal Rhiwabon ddydd Mercher diwethaf am tua 12.20 y bore. Roedd y ddau gerbyd o fewn pellter bach oddi wrth eu gilydd yn ôl y llu. 

Dywedodd y Rhingyll Emma Watts: “Er ein bod o’r gred fod y tanau yma’n fwriadol, ni allwn gadarnhau bod y digwyddiadau’n gysylltiedig ar hyn o bryd.”

Dywedodd hefyd fod rhagor o swyddogion yr heddlu yn bresennol yn ardaloedd Rhos a Rhiwabon, a hynny er mwyn “atal digwyddiadau pellach.”

Mae’r llu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu ar unwaith gan ddweud fod cynnau tân yn fwriadol yn peri risg i eiddo a bywyd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.