Gemau Paralympaidd: Y Cymry fydd yn brwydro am fedalau ym Mharis
Gemau Paralympaidd: Y Cymry fydd yn brwydro am fedalau ym Mharis
Bydd 22 o Gymry yn cymryd rhan yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis eleni, sydd yn dechrau yn swyddogol nos Fercher gyda’r Seremoni Agoriadol.
Bydd athletwyr yn cymryd rhan mewn gorymdaith rhwng y Champs-Elysees a’r Place de la Concorde, wrth i drefnwyr ddilyn trefn y Gemau Olympaidd drwy gynnal y seremoni y tu allan i stadiwm.
Bydd y cystadlu yn dechrau ddydd Iau 29 Awst ac yn parhau tan y seremoni glo ar ddydd Sul 8 Medi.
Bydd 215 o athletwyr yn cynrychioli tîm Prydain a Gogledd Iwerddon, ac mae targed o 100-140 o fedalau wedi eu gosod i’r tîm gan UK Sport.
Gorffennodd Prydain yn yr ail safle yn y Gemau yn Tokyo yn 2021 gyda 124 o fedalau, gan gynnwys 41 medal aur.
Ond pwy yw’r Cymry sydd fwyaf tebygol o gystadlu am fedal y tro hwn?
Aled Sion Davies – Taflu Pwysau F63
Aled Sion Davies o Ben-y-bont yw Pencampwr Paralympaidd, Pencampwr y Byd, Ewrop a’r Gymanwlad ar hyn o bryd.
Fe enillodd Bencampwriaethau Para Athletau’r Byd yn Siapan eleni gyda thafliad dros fetr ymhellach na Faisal Sorour yn yr ail safle.
Yn 33 oed bellach, mae Aled yn llygadu medal aur yn y Gemau Paralympaidd am y pedwerydd tro yn olynol, ar ôl buddugoliaethau yn Llundain, Rio a Tokyo.
Hollie Arnold – Gwaywffon F46
Dyma’r pumed tro i Hollie gystadlu yn y Gemau Paralympaidd. Daeth i’r brig yn Rio i hawlio’r aur, cyn gadael Tokyo gyda medal efydd y tro diwethaf.
Ar ôl ennill medal aur unwaith eto ym Mhencampwriaethau Para Athletau’r Byd eleni, bydd yr hyder yno y gall hi ennill y gystadleuaeth unwaith eto.
Laura Sugar – Para Canŵ – Cystadleuaeth Caiac Unigol KL3
Ar ôl ennill pedair pencampwriaeth y byd yn olynol yng nghamp y para canŵ, bydd Laura Sugar yn un o’r ffefrynnau am y fedal aur ym Mharis eleni.
Fe enillodd Sugar y fedal aur yn Tokyo yn ogystal, ac fe fydd yn benderfynol o’i chadw yn ei meddiant.
Rob Davies – Para Tenis Bwrdd – Cystadleuaeth unigol dosbarthiad 1 a chystadleuaeth parau dosbarthiad 4
Bydd Rob Davies o Aberhonddu yn ceisio adennill y fedal aur yn y gystadleuaeth Para Tenis Bwrdd eleni, yn nosbarthiad 1 y senglau. Fe enillodd y gystadleuaeth yn Rio yn 2016, ond ni chafodd y cyfle i amddiffyn y goron yn Tokyo oherwydd anaf.
Bydd hefyd yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth y parau dosbarthiad 4.
David Smith – Boccia – Cystadleuaeth unigol BC1 a chystadleuaeth tîm cymysg BC1/BC2
Mae David Smith o Abertawe eisoes wedi ennill tair medal aur yn y Gemau Paralympaidd, gan gynnwys medal aur yn y gystadleuaeth unigol BC1 yn Rio a Tokyo.
Bydd yn anelu i ail-adrodd y gamp ym Mharis, ac fe fydd yn cystadlu yng nghystadleuaeth y Boccia tîm cymysg yn nosbarthiad BC1/BC2.
(Lluniau: Wochit/Getty)