Newyddion S4C

Newid lleoliad gêm Cymru yn erbyn Montenegro

27/08/2024

Newid lleoliad gêm Cymru yn erbyn Montenegro

Mae gêm Cymru oddi cartref yn erbyn Montenegro yng Nghynghrair y Cenhedloedd fis Medi wedi cael ei symud i stadiwm arall.  

Roedd y gêm bêl-droed i fod i gael ei chynnal yn ym mhrifddinas Montenegro yn Stadiwm Cenedlaethol Podgorica, ond roedd amheuon cynyddol am hynny yn sgil cyflwr y cae. 

Bydd y gêm bellach yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Nikšić ar 9 Medi. 

Cadarnhaodd Cymdeothas Bêl-droed Cymru brynhawn Mawrth bod y gêm wedi ei symud wedi pryderon am gyflwr y cae.    

Gallai newid stadiwm olygu problemau i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a'r 700 o gefnogwyr a fydd yn teithio draw i'r wlad, gyda'r mwyafrif ohonynt eisoes wedi trefnu llety yn y brifddinas. 

Mae Niksic tua 53km o Podgorica, gyda'r daith yn cymryd awr ar fws neu drên. 

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod yn cydnabod bod hyn yn achosi anghyfleustra i gefnogwyr y Wal Goch sydd eisoes wedi cynllunio eu taith i Podgorica. 

"Ry'n ni mewn trafodaethau gydag UEFA a Chymdeithas Bêl-droed Montenegro er mwyn sicrhau bod y cyhoeddiad hwyr hwn yn tarfu cyn lleied â phosib ar gefnogwyr Cymru, sydd eisoes wedi trefnu eu taith i Podgorica," meddai eu datganiad.    

Ychwanegodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y byddan nhw'n darparu diweddariad pan fydd rhagor o wybodaeth wedi dod i law.  

Bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch yng Nghyngrair y Cenhedloedd ar 6 Medi yn erbyn Twrci yng Nghaerdydd yng ngêm gyntaf Craig Bellamy ers iddo gael ei benodi yn rheolwr. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.