Newyddion S4C

Mam a chwaer y gantores Mariah Carey wedi marw ar yr un diwrnod

27/08/2024
mariah.png

Mae mam a chwaer y gantores Mariah Carey wedi marw ar yr un diwrnod dros y penwythnos. 

Mewn datganiad, dywedodd Ms Carey: "Mae fy nghalon wedi torri wedi i mi golli fy mam dros y penwythnos. 

"Yn drasig hefyd, bu farw fy chwaer ar yr un diwrnod."

Ychwanegodd y gantores ei bod hi'n ddiolchgar o fod wedi treulio amser gyda'i Mam yn yr wythnos cyn ei marwolaeth. 

Does dim rhagor o fanylion wedi cael eu cyhoeddi am achosion y marwolaethau. 

Yn ei hunangofiant yn 2020, dywedodd Ms Carey ei bod hi wedi cael perthynas gymhleth gyda'i Mam, gan ddweud ei fod wedi achosi "cymaint o boen a dryswch".

Ychwanegodd Ms Carey bod ei pherthynas gyda'i chwaer, Alison, hefyd yn gymhleth. 

Dywedodd nad oedd hi mewn cyswllt gyda hi na'i brawd, Morgan, gan ychwanegu ei fod yn "fwy diogel yn emosiynol a chorfforol i beidio cael unrhyw gyswllt".

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.