Newyddion S4C

Rwsia yn parhau gydag ail ddiwrnod o ymosodiadau 'ofnadwy' ar Wcráin

27/08/2024
Taflegrau yn Odessa (wochit/AFP)

Mae Rwsia wedi targedu Wcráin gyda rhagor o ymosodiadau, ddiwrnod ar ôl un o'r ymosodiadau awyr mwyaf ers dechrau'r rhyfel.

Mae awyrennau Rwsia wedi tanio taflegrau mewn sawl rhanbarth yn y wlad ac mae ymosodiadau drôn hefyd wedi cael eu hadrodd.

Dywedodd lluoedd amddiffyn awyr Wcráin fod y wlad gyfan dan fygythiad o ymosodiad arf balistig.

Dywedodd datganiad gan weinyddiaeth amddiffyn Rwsia fod ymosodiadau wedi cael eu cynllunio i dargedu gorsafoedd pŵer ac isadeiledd tebyg ar draws Wcráin, gan gynnwys yn Kyiv, Lviv a rhanbarthau Kharkiv ac Odessa.

Cafodd o leiaf chwech o bobl eu lladd nos Sul, gyda dwsinau yn cael eu hanafu, wedi i fwy na hanner o ranbarthau'r wlad wynebu ymosodiadau.

Dywedodd Arlywydd UDA Joe Biden fod yr ymosodiadau yn 'ofnadwy' gan ddweud y byddai Washington yn parhau i gefnogi Wcráin.

Fe wnaeth Ysgrifennydd Tramor y DU, David Lammy, gondemnio'r ymosodiadau "llwfr" gan Rwsia.

Y gred yw bod tri o bobl wedi marw yn y rownd ddiweddaraf o ymosodiadau.

Cafodd adeilad preswyl ei daro yn ninas ddwyreiniol Kryvyi Rih yn hwyr ddydd Llun, gan ladd dau. Mae nifer o bobl ar goll.

Mae Rwsia wedi bod yn targedu isadeiledd ynni Wcráin ers dechrau yr ymosodiad milwrol ar y wlad, a ddechreuodd ym mis Chwefror 2022.

Llun: Wochit/AFP

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.