Cynllun i godi canolfan tenis £20 miliwn yn enw Syr Andy Murray yn dod i ben
Mae prosiect i godi canolfan tenis gwerth £20 miliwn ger Dunblane yn yr Alban yn enw Syr Andy Murray a'i deulu, wedi dod i ben.
Yn ôl llefarydd ar ran elusen Murray Play Foundation, doedd y prosiect, oedd o dan arweiniad mam Andy Murray, Judy, ddim yn "ymarferol" yn ei ffurf bresennol.
Yn ôl y datganiad, roedd "costau cynyddol y gwaith adeiladu, deunyddiau a llafur, proses gynllunio hir ac ansicr, a thrafodaethau gyda chyrff llywodraethol" ymhlith y rhesymau dros y penderfyniad.
Y gobaith oedd y byddai'r ganolfan yn rhan o waddol Andy Murray, gan ddarparu mwy o gyfleoedd chwaraeon i gymunedau'r ardal.
Yn 2021, enillodd Judy Murray frwydr gynllunio a barodd wyth mlynedd, er mwyn adeiladu'r ganolfan i'r de o Dunblane.
Ond parhaodd y gwrthwynebiad ymhlith ymgyrchwyr lleol, am eu bod yn dymuno i'r darn o dir glas gael ei warchod.
Gorffennodd Andy Murray ei yrfa yn Wimbledon wrth ymddangos yn y dyblau gyda'i frawd Jamie eleni, cyn chwarae gêm olaf ei yrfa broffesiynol yn nyblau'r dynion yn y Gemau Olympaidd ym Mharis.
Cafodd y pencampwr 37 oed a'i bartner Dan Evans eu trechu yn rownd y chwarteri.
Dywedodd llefarydd ar ran y Murray Play Foundation: “Gyda chalon drom, rydym yn dod â'r prosiect hwn i ben, a gyda hynny, rydym yn cefnu ar brosiect a fyddai wedi rhoi cyfle unigryw yn sgil gwaddol dau ddyn ifanc o Dunblane a gyrhaeddodd frig eu camp chwaraeon, gan ysbrydoli nifer fawr o bobl i chwarae'r gêm."
Llun: AFP/Wochit