Dyn o ardal Wrecsam wedi ei ladd tra'n gweithio yn Wcráin
Dyn o ardal Wrecsam wedi ei ladd tra'n gweithio yn Wcráin
Mae dyn 38 oed o ardal Wrecsam wedi ei ladd mewn ymosodiad yn Wcráin tra'n gweithio fel ymgynghorydd diogelwch.
Bu farw Ryan Evans, cyn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Morgan Llwyd, ar ôl i daflegrau daro'r gwesty lle roedd yn aros yn nwyrain Wcráin.
Yn ŵr a thad i bedwar o blant, roedd yn gweithio gydag asiantaeth newyddion Reuters, ac yn gyn filwr.
Dywedodd Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Morgan Llwyd, Heddus Wyn bod y newyddion am ei farwolaeth yn anodd i'w gredu.
“Er bod Ryan wedi gadael yr ysgol ers blynyddoedd maith erbyn hyn, ‘da ni dal yn ei gofio fo,” meddai wrth raglen Newyddion S4C
“Ma' gynnon ni atgofion melys iawn ohono fo.
“Oedd o yn hogyn annwyl tu hwnt efo calon enfawr ag o’dd o’n llawn empathi a llawn hwyl.
“Allwn ni jyst ddim dod dros y newyddion i fod yn onest.”
'Wir yn ei golli'
Mewn datganiad, dywedodd Reuters bod marwolaeth Ryan Evans wedi eu llorio.
“Ry'n ni yn ceisio darganfod rhagor o wybodaeth ar frys am yr ymosodiad, ac ry'n ni mewn cyswllt â'r awdurodau yn Kramatorsk, ac yn cefnogi ein cyd-weithwyr a'u teuluoedd," meddai llefarydd.
“Rydym yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at deulu Ryan a'i ffrindiau.
“Mae Ryan wedi helpu cymaint o newyddiadurwyr wrth iddyn nhw ohebu ar ddigwyddiadau o amgylch y byd; byddwn wir yn ei golli.”
Ychwanegodd yr asiantaeth newyddion bod dau o'u newyddiadurwyr hefyd wedi eu hanafu.
Roedd Mr Evans yn aelod o'r criw a oedd yn aros yng ngwesty'r Sapphire yn Kramatorsk, pan gafodd ei daro gan daflegrau ddydd Sadwrn.
Ychwanegodd Reuters bod dau o'u newyddiadurwyr mewn ysbyty, gydag un yn cael triniaeth ar gyfer anafiadau difrifol.
Mae tri aelod arall o'r asiantaeth newyddion yn ddiogel.
Yn ôl yr awdurdodau yn Wcráin, lluoedd Rwsia ymosododd ar y gwesty.
Dyw Rwsia ddim wedi gwneud sylw.
Llun: Ryan Evans gan Reuters