Newyddion S4C

Tân mewn bloc o fflatiau yn Llundain oriau wedi tân mewn adeilad tebyg arall

26/08/2024

Tân mewn bloc o fflatiau yn Llundain oriau wedi tân mewn adeilad tebyg arall

Oriau wedi i dân gynnau mewn bloc o fflatiau yn Dagenham, Llundain, cynheuodd tân arall mewn bloc o fflatiau ar safle arall yn nwyrain y ddinas brynhawn Llun. 

Cafodd tua 70 o ddiffoddwyr a 10 injan dân ei galw i'r adeilad yn Blackwall, yn ôl Gwasanaeth Tân Llundain. 

Roedd fflamau i'w gweld yn ymledu mewn fflat a balconi ar lawr 25 y bloc o fflatiau yng nghoedlan Biscayne.

Cafodd pobl leol gyngor i gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau oherwydd fod mwg yn ymledu o'r safle. 

Llwyddodd criwiau tân i reoli'r fflamau erbyn 3 o'r gloch brynhawn Llun.   

Yn ôl y gwasanaeth tân, daeth galwad am 1.28, a rhuthrodd criwiau o Millwall, Plaistow, Shadwell a rhai gorsafoedd eraill yno. 

Llwyddodd criwiau tân i reoli'r fflamau erbyn 3 o'r gloch.   

Chafodd neb ei anafu. 

Dyw hi ddim yn glir eto beth achosodd y tân.   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.