Rhieni merch o Gaerfyrddin yn codi dros £20,000 ar gyfer elusennau a achubodd ei bywyd
Rhieni merch o Gaerfyrddin yn codi dros £20,000 ar gyfer elusennau a achubodd ei bywyd
Mae rhieni merch o Gaerfyrddin wedi codi dros £20,000 ar gyfer yr elusennau a achubodd ei bywyd, ar ôl iddi gael ei geni â chyflwr prin.
Yn 28 wythnos yn feichiog, fe gafodd Bethan Wyn a Carwyn Evans o Langynnwr wybod bod gan ei merch Mari Glyn hylif o gwmpas ei hymennydd a oedd hefyd yn llenwi ei hysgyfaint ac yn mynd i lawr ei chefn.
Derbyniodd y teulu ddiagnosis o congenital chylothorax.
Cafodd Mari ei geni naw wythnos yn gynnar, a bu mewn cyflwr difrifol mewn ysbyty arbenigol ym Mryste.
Bellach mae Mari Glyn yn iach ac roedd ei rhieni wedi gosod her i godi arian ar gyfer tair elusen.
Ar ddechrau mis Awst rhedodd Carwyn o Ysbyty St Michael's ym Mryste i gartref y teulu yn Llangynnwr, sef taith o dros 110 milltir.
Mam Mari, Bethan Wyn drefnodd y daith a aeth heibio ysbytai Singleton yn Abertawe a Glangwili yng Nghaerfyrddin, lle roedd Mari wedi cael gofal yn ddiweddarach.
Cyn cychwyn ar yr her dywedodd Carwyn mai hwn fyddai'r peth anoddaf iddo wneud yn ei fywyd.
“Hwn yw’n Everest i, hwn yw’r peth mwya heriol byddai yn neud, s’dim dowt am ny," meddai wrth raglen Heno ar S4C, sydd wedi bod yn dilyn ymdrechion y teulu.
“Fi ddim yn gallu paratoi ben y'n hunan, fi wedi cael tîm o bobl sydd wedi cefnogi a rhoi cynllun hyfforddi i fi."
'Ultramarathon bob dydd'
Mae'r teulu wedi bod yn codi arian ar gyfer elusennau Hywel Dda, elusen iechyd Bae Abertawe a Cots for Tots.
Wrth i Carwyn ddechrau ar ei her yn cwblhau pedwar ultramarathon mewn pedwar diwrnod, diolchodd i'r staff yn Ysbyty St Michael's am achub bywyd eu merch.
“Fi’n neud pedwar ultramarathon, ond rydych chi’n gwneud ultramarathon bob dydd," meddai.
Roedd 77 diwrnod rhwng genedigaeth Mari a'r diwrnod arbennig pan gafodd fynd adref i Langynnwr, Sir Gaerfyrddin.
Bu cyfnodau anodd a chadarnhaol ym Mryste, meddai Bethan: "Fi'n cofio'r consultant yn dweud 'I think its best you make your memories now’, 'na beth wedodd hi.
"Ydw i mynd i adael fy hunan i garu’r plentyn hyn, achos o'n i mynd i gorfod dweud ta-ta.
"Ond o’dd en amhosib peidio caru hi achos, babi ni o'dd hi.
"Ma' edrych nôl yn rhyfedd, achos ti yn cofio'r adegau anodd, ond fi’n cofio Bryste fel profiad positif.
"O'n ni 'na i'n gilydd ond hefyd yn brawf i'r gofal anhygoel gaethon ni, ni methu bod digon diolchar.
"Fi ddim gweld e fel cwmwl mawr dros ein bywyd ni, nathon nhw achub ein merch fach ni a dyna'r rheswm ni'n gallu dod â hi adre."
Bydd rhaglen arbennig am stori'r teulu, Heno: Taith Mari Glyn Adre' yn cael ei darlledu ar S4C am 19:00 nos Lun 26 Awst. Bydd hefyd ar gael i'w gwylio ar Clic