Newyddion S4C

Sven-Göran Eriksson wedi marw yn 76 oed

26/08/2024
Sven-Goran Eriksson

Mae'r cyn reolwr pêl-droed, Sven-Göran Eriksson wedi marw yn 76 oed.

Ym mis Ionawr cyhoeddodd fod ganddo ganser y pancreas, a'i fod wedi cael gwybod bod ganddo flwyddyn yn weddill i fyw.

Cafodd yrfa lwyddiannus iawn fel rheolwr, gan ennill 18 o dlysau mewn amryw o glybiau yn Sweden, Portiwgal a'r Eidal. 

Roedd hefyd yn rheolwr timau rhyngwladol Lloegr, Mecsico, Y Philipinau a'r Arfordir Ifori. 

Bu hefyd yn rheoli clybiau Manchester City a Leicester City.

Yn enedigol o Sweden, Sven-Göran Eriksson oedd y rheolwr tramor cyntaf i reoli Lloegr, a'u harwain i rowndiau'r wyth olaf yng Nghwpan y Byd yn 2002 a 2006 a Phencampwriaeth Euro 2004. 

Mewn teyrnged iddo ar ei gyfrif cymdeithasol, dywedodd seren Cymru a Lerpwl Ian Rush fod "meddyliau pawb yn y clwb gyda theulu Sven a'i ffrindiau ar yr adeg drist hon."    

Dywedodd corff rheoli pêl-droed UEFA: "Ar ran y gymuned bêl-droed Ewropeaidd, mae pawb yn UEFA yn drist iawn o glywed fod Sven Göran Eriksson wedi marw. 

"Yn ffigwr poblogaidd yn y gêm, roedd Sven yn enillydd Cwpan UEFA tra'n rheolwr IFK Göteborg yn 1982, cyn arwain Lazio i fuddugoliaeth yn nhwpan pencampwyr UEFA yn 1999. Cwsg mewn hedd, Sven."

A dywedodd Clwb Pêl-droed Lazio yn yr Eidal: "Diolch am bopeth rwyt ti wedi ei wneud i ni, mister."  



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.