Disgwyl i Karl Darlow gael ei gynnwys yng ngharfan Cymru
Mae disgwyl i'r golwr Karl Darlow cael ei gynnwys yng ngharfan bêl-droed Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Twrci a Montenegro.
Bydd Craig Bellamy yn cyhoeddi ei garfan gyntaf fel rheolwr Cymru fore Mercher.
Gyda'r dyfalu yn parhau am y garfan mae Newyddion S4C yn deall y bydd Karl Darlow, sydd yn 33 oed ac yn chwarae i Leeds yn y Bencampwriaeth, yn cael ei gynnwys.
Cafodd ei eni yn Northampton yn Lloegr, ond mae'n gymwys i chwarae dros Gymru gan ei fod yn ŵyr i Ken Leek, cyn-ymosodwr Cymru a oedd yng ngharfan Cwpan y Byd 1958.
Roedd diddordeb i'w gynnwys yng ngharfan Cymru yn 2013 ac yn 2018.
Cadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru i Darlow wrthod gwahoddiad i gael ei gynnwys yn y garfan i wynebu Awstria mewn gêm gyfeillgar yn 2013.
Roedd Ryan Giggs eisiau ei gynnwys yn y garfan ar gyfer Cwpan China yn 2018, ond dywedodd Darlow ei fod yn canolbwyntio ar ei yrfa gyda'i glwb Newcastle.
Yn 2020 mewn cyfweliad gyda Mail Online, dywedodd ei fod eisiau chwarae dros Loegr, gan ddweud "dyna’r un peth rydych chi fel plentyn eisiau ei wneud."
Ar hyn o bryd mae Darlow yn chwarae i Leeds, ac yn ail ddewis wedi'r Ffrancwr Ilan Meslier.
Danny Ward, Wayne Hennessey, Tom King ac Adam Davies yw'r golwyr sydd wedi cael eu dewis yn ddiweddar i chwarae dros Gymru.
Ond fel Darlow, does yr un ohonyn nhw yn chwarae yn gyson i'w clybiau.
Mae disgwyl i garfan Cymru gael ei chyhoeddi am 10:00 ddydd Mercher, a bydd Cymru yn herio Twrci a Montenegro ar 6 a 9 Medi.
Llun: Wochit