Newyddion S4C

Rhagor o bryfocio a dyfalu am aduniad posibl y brodyr Gallagher

26/08/2024
Oasis PA

Cynyddu mae'r dyfalu y bydd y band Oasis yn ail ffurfio, gyda'r brodyr Liam a Noel Gallagher yn pryfocio y gallai hynny gael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.  

Cafodd darn fideo byr o arwydd logo Oasis ei gyhoeddi ar gyfrifon Instagram y ddau nos Sul, yn ogystal â thudalen swyddogol y band.  

Mae'r dyddiad “27.08.24” yng nghanol yr arwydd, cyn iddo newid i “8am”.

Mae eu ffans wedi bod yn ymbilio ar y band o Fanceinion i ail ffurfio, ers iddyn nhw wahanu yn 2009. 

Digwyddodd hynny wedi ffrae yng ngŵyl Rock en Seine ym Mharis.

Yn ystod perfformiad Liam Gallagher yng ngŵyl Reading nos Sul, dywedodd ei fod yn cyflwyno'r gân Half The World Away gan Oasis i'w frawd Noel. 

Ac yn ddiweddarach dywedodd fod eu can Cigarettes & Alcohol yn cael ei chyflwyno i bobl sy'n 'casáu'r band'. 

Ar ddiwedd y perfformiad, cafodd yr un darn fideo gyda dyddiad dydd Mawrth ei arddangos ar brif sgriniau'r llwyfan.

Perthynas stormus

Mae'r dyfalu am yr aduniad wedi cynyddu yn ddiweddar, yn sgil sïon bod y ddau frawd yn dechrau cymodi, wedi perthynas stormus dros ddegawdau.  

Yn ogystal â sïon am gyngherddau yn Llundain a Manceinion y flwyddyn nesaf, mae adroddiadau hefyd y gallai Oasis fod yn un o brif berfformwyr gŵyl Glastonbury. 

Daw'r dyfalu bron 30 mlynedd ers albwm cyntaf y band, Definitely Maybe, gyda bwriad i gyhoeddi fersiwn arbennig ohono.    

Mae Liam wedi bod yn teithio o amgylch y DU yr haf hwn, yn dathlu'r albwm a gafodd ei gyhoeddi yn 1994.

Dyw Noel ddim wedi bod yn bresennol yn y cyngherddau hynny, ond yn ystod sioe yng Nghaerdydd, cyflwynodd Liam y gân Half The World Away i'w frawd. 

Wedi iddyn nhw ffurfio yn 1991, cafodd y band lwyddiant mawr gyda chaneuon fel Wonderwall, Don’t Look Back In Anger a Stop Crying Your Heart Out.

Roedden nhw yn un o fandiau mwyaf y DU cyn iddyn nhw wahanu yn 2009.

Parhaodd y ddau frawd gyda'u gyrfaoedd gan berfformio ar wahân.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.