Newyddion S4C

Dau berson yn yr ysbyty wedi tân mewn bloc o fflatiau yn Llundain

26/08/2024
Tan Llundain

Mae dau berson wedi eu cludo i'r ysbyty, ar ôl i dân gynnau mewn bloc o fflatiau yn nwyrain Llundain.

Cafodd Gwasanaeth Tân Llundain eu galw i'r adeilad yn Dagenham am 02:44 fore Llun.

Menw datganiad amser cinio, dywedodd Comisiynydd Tân Llundain Andy Roe eu bod wedi dod o hyd i bawb oedd yn y bloc o fflatiau a bod 20 o bobl wedi eu hachub. 

Cafodd mwy nag 80 o bobl eu hebrwng o'r adeilad, pan roedd y tân ar ei anterth.

Mewn datganiad, dywedodd Mr Roe: “Rwy'n falch bod pawb wedi eu darganfod. Cafodd mwy nag 80 o breswylwyr eu cludo oddi yno i fan diogel, a bu 10 ymdrech achub."

Ychwanegodd: “Rwy'n hynod ddiolchgar i'r criwiau a'r swyddogion a fu'n gweithio mewn amodau peryglus er mwyn achub pobl a rheoli'r fflamau."

Cafodd tua 225 o swyddogion y gwasanaeth tân eu hanfon i'r lleoliad, a chafodd bobl leol gyngor i gadw eu ffenestri a drysau ar gau.

Bu'n rhaid i bedwar o bobl eraill gael trinaeth gan y gwasanaeth ambiwlans yn y fan a'r lle.

Roedd sgaffaldiau o amgylch y bloc o fflatiau ar y pryd.

 

Image
Tan Llundain
Llun: Gwasanaeth Tân Llundain

Cafodd canolfan ei sefydlu i gefnogi pobl sydd yn byw yn y fflatiau.

Dywedodd Alan Bendell o Wasanaeth Tân Llundain nad yw hi'n glir eto sut y cynheuodd y tân, a bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Ychwanegodd fod gan yr adeilad "nifer o broblemau diogelwch tân" a bod y gwasanaeth yn ymwybodol o'r problemau hynny.

Image
Tan Llundain
Llun: Lucy North/PA

Prif lun: Lucy North/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.