Newyddion S4C

Nifer y bobl 60 oed a hŷn sy'n hunangyflogedig wedi cyrraedd record newydd

26/08/2024
Saer

Mae nifer y bobl 60 oed a hŷn sy'n hunangyflogedig wedi cyrraedd record o bron filiwn, yn ôl gwaith ymchwil newydd.

Cyfanswm y gweithwyr sy’n hunangyflogedig yw tua 4.3 miliwn, yn ôl astudiaeth gan Rest Less, sy’n cynnig cyngor a chymorth i bobl hŷn.

Bu dwy flynedd o dwf yn olynol mewn hunangyflogaeth ymysg y gweithwyr hyn, meddai’r adroddiad.

Mae dadansoddiad Rest Less wedi darganfod bod nifer y gweithwyr hunangyflogedig yn eu 50au a hŷn wedi cynyddu ers 2021, yn benodol y rhai yn eu 60au sy'n golygu bod y record newydd wedi ei chreu.

Ymddeoliad

Dywedodd Stuart Lewis, prif weithredwr Rest Less: “Gydag oedran pensiwn y wladwriaeth yn fuan i fod yn 67 ac ar fin mynd yn uwch fyth, mae llawer o bobl yn dewis gweithio y tu hwnt i'r pwynt ymddeoliad traddodiadol.

“I lawer, mae hunangyflogaeth yn opsiwn gwych gan ei fod yn caniatáu i bobl aros yn weithgar ac ymgysylltu â’r gymuned a’r gweithlu tra hefyd yn darparu mwy o hyblygrwydd - gan ddefnyddio eu sgiliau, eu profiad a’u rhwydwaith i gael effaith.

“Mae argyfwng costau byw y blynyddoedd diwethaf wedi ei gwneud yn arbennig o heriol i’r rhai sy’n dibynnu’n llwyr ar bensiwn y wladwriaeth ac rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n troi at hunangyflogaeth i ddarparu ffynhonnell incwm ychwanegol a phensiynau atodol tra maen nhw'n dal yn gallu gweithio."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.