Newyddion S4C

Cipolwg ar gemau ddydd Llun y Cymru Premier JD

Sgorio 26/08/2024
Barry Town - Cymru Premier JD

Er ei bod hi’n gynnar yn y tymor, mae’n gyfnod allweddol i glybiau’r Cymru Premier JD gyda dwy gêm i’w chwarae o fewn tridiau dros benwythnos Gŵyl y Banc.

Dydd Llun, 26 Awst – 14:30

Caernarfon v Y Bala 

Met Caerdydd v Hwlffordd

Pen-y-bont v Aberystwyth

Y Barri v Y Drenewydd

Y Fflint v Cei Connah 

Bydd holl gemau dydd Llun Gŵyl y Banc yn dechrau am 14:30 gyda gemau darbi’n cael eu cynnal yng Ngwynedd ac yn Sir y Fflint.

Er bod bron i 50 milltir yn gwahanu’r ddwy dref, mae dipyn o elyniaeth wedi datblygu rhwng Caernarfon a’r Bala yn narbi Gwynedd dros y tymhorau diwethaf.

Ond Y Bala’n sicr sydd wedi cael y gorau o bethau, ac er i’r bedair gornest ddiwethaf rhwng y timau orffen yn gyfartal, dyw’r Bala heb golli mewn 11 gêm yn erbyn y Cofis (ennill 6, cyfartal 5).

Tair milltir yn unig sy’n gwahanu’r Fflint a Chei Connah, ond gyda’r ddau dîm yn chwarae eu gemau cartref ar Gae-y-Castell erbyn hyn, bydd y Nomadiaid yn ei gweld hi’n rhyfedd gorfod defnyddio’r ystafell newid ‘oddi cartref’ ddydd Llun.

Mae hi wedi bod yn ddechrau caled i’r tymor i’r ddau glwb gyda’r Fflint yn aros am eu buddugoliaeth gyntaf ers eu dyrchafiad, a Cei Connah yn chwilio am reolwr newydd ar ôl i Neil Gibson adael y clwb yn ddiweddar.

Awst 2011 oedd y tro diwethaf i’r Fflint guro Cei Connah, ac ers hynny dyw Cei Connah heb golli dim un o’u 10 gêm yn erbyn Y Fflint (ennill 8, cyfartal 2), ac mae’r Nomadiaid wedi cadw llechen lân yn eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn y Sidanwyr.

Yn y brif ddinas bydd Met Caerdydd a Hwlffordd yn gobeithio parhau â’u dechrau da i’r tymor, ac mae’r pedair ornest ddiwethaf rhwng y ddau dîm yma wedi gorffen yn gyfartal ar ôl 90 munud, ac felly fe ddylai fod yn frwydr agos ar Gampws Cyncoed.

Mae Pen-y-bont wedi ennill chwech o’u wyth gêm flaenorol yn erbyn Aberystwyth (cyfartal 1, colli 1) a bydd tîm Rhys Griffiths yn disgwyl dim llai na thriphwynt gartref yn erbyn y Gwyrdd a’r Duon.

Enillodd Y Barri o 4-0 gartref yn erbyn Y Drenewydd ym mis Ionawr, sef eu buddugoliaeth fwyaf yn y gynghrair y tymor diwethaf.

Ond cyn hynny roedd Y Drenewydd wedi mynd ar rediad o saith gêm heb golli yn erbyn y Dreigiau (ennill 5, cyfartal 2).

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.