Newyddion S4C

Arestio dyn wedi i fenyw 86 oed ddioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad

25/08/2024
Rhisca

Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion i wrthdrawiad ffordd ar Heol Eglwys Fair, Rhisga, tua 22.10 nos Sadwrn.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng cerddwr ar y ffordd a Suzuki Swift du.

Cafodd y cerddwr, menyw 86 oed o Gasnewydd, ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol. 

Mae ei theulu wedi cael gwybod am y digwyddiad ac fe arestiwyd dyn 29 oed ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus, a gyrru tra'n uwch na'r terfyn alcohol.

Mae’r dyn, o Gasnewydd, yn parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd wrth i ymholiadau'r heddlu barhau.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo'r ymchwiliad, gan gynnwys bod yn berchen ar luniau teledu cylch cyfyng neu luniau camera dashfwrdd perthnasol, gysylltu gyda Heddlu Gwent dros y we neu drwy ffonio 101, neu anfon neges ar Facebook neu X gan ddyfynnu cyfeirnod log 2400284547.

Neu mae modd ffonio Crimestoppers, yn ddienw, ar 0800 555 111 gyda manylion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.