Newyddion S4C

Supersonic: Y band Oasis i ailffurfio wedi 15 mlynedd?

25/08/2024
Oasis PA

Mae adroddiadau bod y band Oasis ar fin ailffurfio ar gyfer nifer o gyngherddau'r flwyddyn nesaf.

Daeth y band, sydd yn enwog am restr hir o ganeuon poblogaidd fel 'Wonderwall', 'Don't Look Back In Anger', 'Live Forever' a 'Some Might Say' i ben yn 2009.

Y gred yw nad oedd y brodyr Liam a Noel Gallagher, a oedd yn ganolog i lwyddiant y band, wedi siarad gyda'i gilydd ers hynny.

Mae'r ddau frawd wedi mwynhau llwyddiant fel artistiaid unigol ers i Oasis chwalu.

Mae adroddiadau y gallai'r aelodau o Oasis ailffurfio, a hynny ar gyfer cyfres o gyngherddau ym Manceinion a Llundain y flwyddyn nesaf.

Mae sôn hefyd y gallai'r band fod y prif atyniad yn Glastonbury yn ystod haf 2025.

Ffurfiwyd y band ym Manceinion yn 1991 gan Liam Gallagher, Paul Arthurs, Paul McGuigan, a Tony McCaroll. 

Rain oedd enw'r band yn wreiddiol, ond newidiodd ei enw i Oasis ar ôl i Noel Gallagher ymuno fel gitarydd. 

Ym 1993, arwyddodd y band gyda label recordio annibynnol Creation Records. Ym 1994, rhyddhaodd Oasis eu halbwm gyntaf 'Definitely Maybe', a aeth i frig Siart Albymau’r DU.

Ym 1999, gadawodd Paul Arthurs a Paul McGuigan y band wrth iddyn nhw recordio eu pedwerydd albwm stiwdio, 'Standing on the Shoulder of Giants'.

Fe chwalodd y band yn 2009, funudau cyn chwarae mewn cyngerdd.

Fe fydd y newyddion diweddaraf am ailffurfio'r band, os daw cadarnhad, yn newyddion arbennig i'w cannoedd o filoedd o ddilynwyr.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.