Newyddion S4C

Crymych yn cynnal gêm rygbi er cof am 'berson arbennig iawn' fu farw'n 37 oed

25/08/2024
Marc Beasley

Bydd gêm rygbi yn cael ei chynnal yn Sir Benfro ddydd Sul er cof am chwaraewr a fu farw eleni.

Bu farw Marc Beasley o Grymych yn 37 oed ar 15 Mawrth.

Roedd yn chwaraewr rygbi brwd ac yn aelod o Glwb Rygbi Crymych ers ei ddyddiau yn yr ysgol.

Dydd Sul, fe fydd gêm rygbi yn cael ei chynnal am 14.30 er cof am Mr Beasley ym Mharc Lloyd Thomas yng Nghrymych.

Fe fydd 50 o chwaraewyr yn cymryd eu tro i chwarae i dîm Bois Beasley, gan gynnwys chwaraewyr presennol y clwb yn ogystal â rhai o'r gorffennol. 

Fe fydd pob un ohonyn nhw'n gwisgo crys glas arbennig, sy'n cynrychioli cyfnod Mr Beasley gyda'r tîm ieuenctid, er mwyn wynebu tîm y Teirw.

'Mewn sioc'

Image

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd ysgrifennydd Clwb Rygbi Crymych, Gordon Eynon, fod Marc yn aelod "poblogaidd iawn" o'r clwb.

"Yn ogystal â rygbi, roedd o'n chwarae mathau eraill o chwaraeon, ac yn ystod y blynyddoedd diweddar roedd o wedi bod yn gwneud dipyn o redeg, yn gwneud marathons ac yn y blaen, ac wedi cael mewn i'r Iron Man yn Ninbych-y-pysgod," meddai.

Dywedodd Mr Eynon fod y clwb "mewn sioc" yn dilyn ei farwolaeth yn "ifanc".

"Roedd y clwb mewn sioc, methu credu'r peth – yn enwedig gan ei fod mor ffit. Roedd o wedi bod yn ymarfer y noson cynt," meddai.

"Roedd yr holl beth yn drist ofnadwy, felly roedd gan y clwb awydd ar unwaith i gofio am Marc a rhoi teyrnged iddo.

"Felly daeth y syniad lan wedyn i gael gêm heddiw gyda tîm o dan ei enw fe."

Er mwyn cael bod yn rhan o'r dorf, bydd yn rhaid i ymwelwyr dalu £5 gydag arian parod. 

Yn dilyn y gêm bydd raffl ac ocsiwn yn cael eu cynnal, gyda'r holl elw yn mynd tuag at Gronfa Marc Beasley.

Cafodd y gronfa ei sefydlu er mwyn codi arian i dalu am sgriniau ar y galon i chwaraewyr y clwb rygbi.

Yn y pen draw, mae'r clwb hefyd yn gobeithio ymestyn y sgrinio i'r gymuned ehangach.

Mewn neges fideo ar gyfrif Facebook y clwb, dywedodd cyn-gapten Cymru, Ken Owens, fod Mr Beasley yn "berson arbennig".

"Ges i'r pleser a'r anrhydedd o chwarae gyda Marc blynyddoedd maith yn ôl pan o'n i'n 11 oed yn district ysgolion Caerfyrddin.

"Roedd e'n top boi, felly fi'n gobeitiho chi gyd yn cael diwrnod grêt i gofio am berson arbennig iawn."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.