Newyddion S4C

Cwmni teledu annibynnol Wildflame o Gaerdydd yn dod i ben

25/08/2024
Wildflame

Mae cwmni teledu annibynnol Wildflame o Gaerdydd wedi cyhoeddi ei fod yn dirwyn i ben o achos amodau "heriol ag eithafol grymoedd y farchnad".

Dywedodd Paul Islwyn Thomas, prif weithredwr cwmni Wildflame, mewn neges ar wefan y cwmni ei fod yn hynod o falch o'r hyn yr oedd y cwmni wedi ei gyflawni yn ystod yr wyth blynedd o'i fodolaeth.

"I’n holl staff mewnol, gweithwyr llawrydd, talent anhygoel a phartneriaid darlledu gwerthfawr, rydym yn hynod o ddiolchgar am eich cefnogaeth ddi-flino ers i ni agor y drysau am y tro cyntaf yn 2015.

"Gyda'n gilydd rydym wedi cyflawni cymaint."

Roedd y cwmni'n cyflogi 17 o staff ar gyfartaledd yn ôl cyfrifon mwyaf diweddar Wildflame.

Roedd Wildflame yn darparu rhaglenni i nifer o ddarlledwyr gan gynnwys y BBC, S4C a Channel 5, gan ennill nifer o wobrau yn ystod ei fodolaeth.

Mae'r diwydiant teledu wedi wynebu cyfnod heriol yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i gyllidebau grebachu a chomisiynau ar raglenni ostwng i drwch o gwmnïau annibynnol.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.