Newyddion S4C

'Pethau i waethygu cyn gwella': Rhybudd Syr Keir Starmer am gyflwr y DU

25/08/2024
Cabinet Keir Starmer

Mae disgwyl i Syr Keir Starmer rybuddio y bydd "pethau'n gwaethygu" yn y DU cyn iddyn nhw wella.

Mewn araith ddydd Mawrth, bydd y Prif Weinidog yn dweud nad oes atebion cyflym i adfer "y rwbel a'r adfail" sydd wedi ei adael gan y Ceidwadwyr.

Bydd yn dweud: "Rydym wedi etifeddu nid yn unig twll du economaidd ond twll du cymdeithasol. A dyna pam mae'n rhaid i ni wneud pethau'n wahanol.

"Rhan o hynny yw bod yn onest gyda phobl – am y dewisiadau sy’n ein hwynebu, a pha mor galed fydd hyn.

"A dweud y gwir, bydd pethau’n gwaethygu cyn iddyn nhw wella."

Bydd Syr Keir hefyd yn dadlau bod y llywodraeth ddiwethaf wedi cuddio gwir gyflwr cyllid cyhoeddus, gan ddweud bod pethau’n "waeth nag y dychmygwyd".

Bydd yn dweud: "Yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf, fe wnaethon ni ddarganfod twll du gwerth £22 biliwn yn y cyllid cyhoeddus. A pheidiwch â gadael i neb ddweud bod hyn yn berfformiadol, nac yn chwarae gwleidyddiaeth.

"Doedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ddim yn gwybod am hyn. Fe wnaethon nhw ysgrifennu llythyr yn dweud hynny. Doedden nhw ddim yn gwybod oherwydd bod y llywodraeth ddiwethaf wedi ei guddio."

Ond fe fydd hefyd yn mynd i’r afael â chyflwr y sector cyhoeddus ehangach.

Bydd yn dweud bod y rhai fu’n cymryd rhan yn y terfysgoedd diweddar wedi gallu ecsbloetio’r "craciau yn ein cymdeithas ar ôl 14 mlynedd o boblyddiaeth a methiant", gan gynnwys diffyg lleoedd mewn carchardai.

Bydd yn dweud: "Mae peidio â chael digon o leoedd carchar yn golygu methiant mor sylfaenol â phosib. A’r bobl hynny oedd yn taflu cerrig, yn rhoi ceir ar dân, yn gwneud bygythiadau – doedden nhw ddim yn gwybod bod y system wedi torri. Roedden nhw'n betio arno. Roedden nhw'n ei chwarae."

Gan ddadlau na fydd newid yn digwydd "dros nos", mae disgwyl i’r Prif Weinidog hefyd ddweud bod Llafur wedi cyflawni "mwy mewn saith wythnos nag y gwnaeth y llywodraeth ddiwethaf mewn saith mlynedd".

Bydd yn cyfeirio at sefydlu Cronfa Cyfoeth Cenedlaethol, newid polisi cynllunio i adeiladu mwy o gartrefi a dod â streiciau yn y sector cyhoeddus i ben.

Daw araith Syr Keir o flaen cyfnod a allai fod yn heriol i Lywodraeth Prydain wrth iddi baratoi ei chyllideb gyntaf.

Bydd y gyllideb yn cael ei chyflwyno ar 30 Hydref.

 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.