Nifer o geir wedi eu rhoi ar dân tu allan i gartrefi yn ardal Wrecsam
25/08/2024
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru'n dweud bod nifer o geir wedi eu rhoi ar dân tu allan i dai yn ardal Wrecsam dros y dyddiau diwethaf.
Cafodd criwiau tân eu galw i'r trydydd achos mewn ychydig ddyddiau yn Rhosllannerchrugog yn hwyr nos Wener.
Y gred yw bod y tân wedi ei gynnau'n fwriadol.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio am unrhyw un sydd gyda gwybodaeth neu luniau CCTV o'r digwyddiad i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod Q127366.