Newyddion S4C

Cyhoeddi enw dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio tri o bobl yn yr Almaen

25/08/2024
Ymosodiad Solingen

Mae erlynwyr wedi cyhoeddi enw’r dyn sydd wedi ei gyhuddo ​​o gyflawni ymosodiad angheuol yn yr Almaen ddydd Gwener.

Mae’r dinesydd o Syria, Issa Al H, wedi ei gyhuddo o fod yn "aelod o fudiad terfysgol tramor", gan ddweud ei fod yn rhannu "ideoleg y Wladwriaeth Islamaidd". 

Mae hefyd wedi’i gyhuddo o dri chyhuddiad o lofruddiaeth, ymgais i lofruddio a niwed corfforol difrifol.

Cafodd tri o bobl eu lladd ac wyth arall eu hanafu'n ddifrifol yn yr ymosodiad â chyllell yn ninas Solingen, meddai Heddlu'r Almaen.

Dynion 67 a 57 oed a menyw 56 oed oedd y rhai a fu farw.

Roedd y dyn 26 oed, a oedd wedi gwneud cais am loches, wedi rhoi ei hun i mewn i’r heddlu yn dilyn ymgyrch fawr i chwilio amdano.

Dywedodd swyddogion yn Dusseldorf fod y dyn "wedi dweud mai fe oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad", gan ychwanegu ei fod wedi cael ei arestio o'r blaen.

Ychwanegodd ei bod yn ymddangos bod yr ymosodwr wedi anelu'n fwriadol at wddf ei ddioddefwyr.

Mae'r Wladwriaeth Islamaidd wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ond ni chynigiodd unrhyw dystiolaeth i gefnogi ei honiad.

Image
Solingen
Mae pobl wedi dod â blodau a chanhwyllau i safle'r ymosodiad. Llun: Wochit

Yn gynharach ddydd Sadwrn, cafodd plentyn 15 oed ei arestio ar amheuaeth o fethu a "rhoi gwybod am drosedd oedd ar fin digwydd". 

Ond dywedodd yr heddlu mewn cynhadledd newyddion brynhawn Sadwrn nad oedd ganddyn nhw unrhyw amheuon pellach am y plentyn.

Mae'r heddlu hefyd wedi arestio un person arall mewn cysylltiad â'r ymosodiad.

Dywedodd y llu fod yr arestiad yn dilyn ymgyrch i gael mynediad i adeilad sy'n gartref i geiswyr lloches yn Solingen fel rhan o'u hymchwiliad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Fronhof o'r ddinas Solingen am 21.30 amser lleol (20.30 BST) nos Wener.

Roedd pobl wedi ymgasglu yno ar gyfer 'Gŵyl Amrywiaeth' i nodi 650 o flynyddoedd ers sefydlu'r ddinas sydd â phoblogaeth o 160,000.

Roedd y digwyddiad i fod i bara tan ddydd Sul, gyda sawl llwyfan yn y ddinas yn cynnig atyniadau fel cerddoriaeth fyw, cabaret a champau acrobateg.

Ond roedd awdurdodau’r ddinas wedi gofyn i bobl adael yr ardal yn dilyn yr ymosodiad am tua 22.00 amser lleol (21.00 BST).

Mae safle'r ymosodiad bellach yn cael ei warchod gan yr heddlu wrth i ymchwiliad fynd yn ei flaen.

Llun: Wochit

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.