Newyddion S4C

Lluoedd Israel wedi ymosod ar dargedau Hezbollah yn Libanus

25/08/2024
Libanus

Fe wnaeth lluoedd Israel ymosod ar ddegau o dargedau Hezbollah yn Libanus dros nos, gan ddweud mai ymdrech i amddiffyn ei phobl rhag ymosodiadau oedd y cyrchoedd awyr.

Y gred yw bod Hezbollah wedi bwriadu saethu canoedd o rocedi i gyfeiriad Israel, ond bod lluoedd arfog Israel wedi ymateb gan ymosod cyn i hynny ddigwydd.

Fe fydd y datblygiad diweddaraf yn dwysáu'r tensiwn yn y rhanbarth, a hynny wedi i Israel ladd un o arweinwyr Hezbollah yn Beirut fis yn ôl.

Dywedodd Hezbollah bnawn dydd Sul bod "rhan gyntaf" eu hymosodiad wedi dod i ben. 

Yn ôl yr awdurdodau yn Libanus bu farw tri o bobl yn ne'r wlad yn dilyn yr ymosodiadau gan awyrennau Israel.

Dywedodd llefarydd ar ran byddin Israel bod tua 100 o awyrennau wedi bomio safleoedd yn Libanus oedd yn cael eu defnyddio fel lleoliadau i danio taflegrau.

Fe wnaeth Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, siarad ar ddechrau cyfarfod brys o gabinet diogelwch cenedlaethol y llywodraeth yn Tel Aviv fore Sul. 

Dywedodd: “Rydyn ni’n benderfynol o wneud popeth i amddiffyn ein gwlad, dychwelyd trigolion y gogledd yn ddiogel i’w cartrefi a pharhau i gynnal rheol syml: pwy bynnag sy’n ein brifo - rydyn ni’n eu brifo nhw.

“Mae Byddin Amddiffyn Israel wedi bod yn gweithio’n ddwys i rwystro’r bygythiadau,” meddai.

“Fe ddinistriodd filoedd o rocedi wedi’u hanelu at ogledd y wlad; mae hefyd yn rhwystro llawer o fygythiadau eraill ac yn gweithredu'n rymus - o ran amddiffyn ac wrth ymosod.”

Dywedodd Hezbollah eu bod wedi tanio 320 o rocedi i mewn i ogledd Israel, gan dargedu safleoedd yng ngogledd y wlad.

Yn Israel mae deuddydd o stad o argyfwng wedi cael ei gyhoeddi mewn ymateb i'r ymosodiad diweddaraf.

Mae'r sefyllfa ddiweddaraf wedi arwain at ganslo hediadau i Faes Awyr Ben Gurion yn Tel Aviv fore dydd Sul.

Pwy yw Hezbollah?

Mae gan Hezbollah rym sylweddol yn Libanus, lle mae'n gweithredu fel plaid wleidyddol Fwslimaidd Shiite a grŵp milwriaethus.

Mae'n gwrthwynebu Israel a gwledydd Gorllewinol sy'n gweithredu yn y Dwyrain Canol, ac mae dylanwad Iran yn drwm ar y grŵp, fel ei gefnogwr mwyaf.

Mae Hezbollah wedi wynebu beirniadaeth yn Libanus gan y cyhoedd yno yng nghanol argyfwng gwleidyddol ac economaidd yn y wlad.

Mae gwrthdaro cynyddol rhwng Hezbollah ag Israel bellach yn bygwth agor canolbwynt newydd yn rhyfel rhwng Israel a Hamas, a fyddai’n dod ar gost fawr i Libanus sydd wedi’i difrodi’n economaidd.

Mae Iran yn darparu’r rhan fwyaf o hyfforddiant, arfau a chyllid Hezbollah, gan anfon cannoedd o filiynau o ddoleri i’r grŵp bob blwyddyn. 

Mae Hezbollah hefyd yn derbyn rhywfaint o gefnogaeth gan lywodreth Bashar al-Assad yn Syria, yn ogystal ag arian gan fusnesau cyfreithiol, a busnesau troseddol rhyngwladol.

Llun: Aziz Taher

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.