'Calon ein teulu': Teyrnged i ddynes o Ddolgellau a fu farw mewn gwrthdrawiad
Mae teulu dynes a fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar ger y Bermo yng Ngwynedd wedi rhoi teyrnged iddi.
Bu farw Jean Harris, 84 oed o Ddolgellau, mewn gwrthdrawiad rhwng Suzuki Ignis gwyn a Kia Carens arian ar yr A496 ddydd Gwener.
Cafodd yr heddlu a'r gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am 13:14.
Cafodd pedwar person eu cludo i'r ysbyty yn Stoke, tri ohonyn nhw mewn ambiwlans awyr.
Mae tri yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol. Cafodd un ei ryddhau o’r ysbyty fore dydd Sadwrn.
'Colled enfawr'
Mewn teyrnged iddi, dywedodd ei theulu: "Mae ein calonnau wedi torri bod ein mam annwyl wedi cael ei chymryd oddi arnom yn rhy fuan.
"Hi oedd calon ein teulu mawr, ac ni fydd ein bywydau byth yr un fath eto.
"Bydd colled enfawr ar ei hôl."
Dywedodd y Cwnstabl Eleri Jones o Heddlu'r Gogledd eu bod nhw'n apelio am unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad.
"Rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn dyst i'r gwrthdrawiad, neu unrhyw un oedd yn teithio ar hyd yr A496 cyn y gwrthdrawiad ac sydd â lluniau cylch cyfyng cyn gynted â phosib," meddai.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r llu trwy ddyfynnu'r cyfeirnod Q126958.