£800,000 ar gyfer cynllun llifogydd i bentref yn y Rhondda
Bydd cyllid o £800,000 gan Lywodraeth Cymru yn mynd tuag at gynllun llifogydd mewn pentref yn y Rhondda a gafodd ei ddinistrio gan lifogydd yn ystod Storm Dennis.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi ei fod wedi sicrhau'r cyllid y bydd yn ei fuddsoddi mewn rhagor o waith lliniaru llifogydd yn y pentref, ar ben y mesurau sylweddol sydd eisoes wedi'u cymryd ers Storm Dennis.
Ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2023, ymgynghorodd y cyngor â thrigolion ynghylch yr opsiwn sy’n cael ei ddatblygu ar gyfer Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre.
Bydd y cynllun yn fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn seilwaith, gan ddal dŵr glaw o ddalgylchoedd uchaf Pentre a’i gyfeirio drwy system cwlfert sydd newydd ei lleoli yn lleol.
Achos busnes
Mae’r cyngor wedi cael cymorth ariannol o £800,000 gan Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd Llywodraeth Cymru, i helpu i gyflawni’r achos busnes llawn a’r dyluniad manwl.
Roedd Pentre yn un o’r cymunedau a gafodd ei tharo galetaf yn ystod Storm Dennis ym mis Chwefror 2020.
Dywedodd y cyngor fod gwaith mawr wedi'i wneud ers hynny ar lawr gwlad i liniaru perygl llifogydd yn y dyfodol.
Bydd y cyllid hwn yn galluogi’r cyngor i ddechrau ar ddyluniad technegol y cynllun dros y 18 mis nesaf – a fydd yn ei hanfod yn bwrw ymlaen â’r dyluniad a rannwyd gyda’r gymuned yr haf diwethaf.
Y camau cyntaf fydd penodi ymgynghorwyr allanol ar gyfer y cynllun, a dechrau ar y gwaith arolygu cychwynnol.
Dywedodd y cyngor y gall trigolion gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith trwy grwpiau cyswllt lleol a fydd yn cael eu sefydlu gyda chynrychiolwyr cymunedol a bydd tudalen benodol ar wefan y cyngor yn cael ei diweddaru.
Llun: Google