Rhybudd i deithwyr yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghwmbrân
24/08/2024
Mae Heddlu'r De yn rhybuddio teithwyr i osgoi ardal yng Nghwmbrân, Torfaen yn dilyn gwrthdrawiad.
Cafodd yr heddlu a'r gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A4042 yng Nghroesyceiliog ddydd Sadwrn.
Mae'r ffordd ar gau tua'r gogledd o gylchfan yr Amlosgfa a chylchfan Rechem, gyda dargyfeiriadau ar waith.
Mae gyrwyr yn cael eu cynghori i osgoi’r ardal am y tro.
Llun: Google Maps