Newyddion S4C

Cadw at oriau gwaith yn 'gwneud pobl yn fwy cynhyrchiol'

24/08/2024

Cadw at oriau gwaith yn 'gwneud pobl yn fwy cynhyrchiol'

Ydych chi'n ei chael hi’n anodd i ddiffodd eich gliniadur neu efallai'n ateb ebyst y tu allan i oriau gwaith?

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi addo cyflwyno hawl i bobl beidio gweithio y tu hwnt i'w horiau.

Y syniad yw y bydd yn gwella pa mor gynhyrchiol ydy gweithwyr yn ystod oriau gwaith, sydd yn ôl arbenigwyr yn hanfodol ar gyfer twf cyflogau a safonau byw. 

Ond gyda natur swyddi yn amrywio, mae'r ymateb i'r cynnig yn gymysg.

Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae'r hawl i weithio o fewn oriau gwaith yn unig yn hanfodol i weithwyr fod yn fwy cynhyrchiol.

Yn ôl dirprwy lefarydd y Prif Weinidog, "mae'n bwysig sicrhau fod pobl yn cael seibiant.

"Mae cyflogwyr da yn deall fod angen i weithwyr gadw at oriau gwaith er mwyn cadw yn gynhyrchiol ac yn frwdfrydig am eu gwaith," meddai.

'Angen ffin glir'

Mae cynhyrchiant yn fesur economaidd am o faint o waith sy'n cael ei gyflawni mewn amser penodol - rhywbeth y mae arbenigwyr yn ei ystyried yn hanfodol ar gyfer twf cyflogau a safonau byw. 

Y nod yw i sicrhau bod "ffin glir rhwng bywyd yn y gweithle ac yn y cartref" meddai'r dirprwy lefarydd. 

"Mae'n un o heriau canolog y Llywodraeth i gofnodi twf ac rydym yn gwybod bod bod yn gynhyrchiol yn hanfodol ar gyfer twf," meddai. 

Ni fydd y cynlluniau yn addas i bawb ac felly mae'r Llywodraeth yn cydnabod y bydd polisiau cwmniau yn amrywio gyda gwahanol swyddi.

"Mewn egwyddor, allai weld ei fod yn ddeniadol bod rheolau neu blismona ar fater fel hyn, ond mae cael un ffordd ar gyfer gymaint o wahanol ffyrdd o weithio am fod yn anodd i weinyddu," yn ôl y gyfreithwraig Fflur Jones.

Mae gweinidogion yn edrych ar bolisiau gwledydd eraill, gan gynnwys Iwerddon a Gwlad Belg, lle mae gan weithwyr yr "hawl i ddatgysylltu" ac i beidio gweithio tu allan i'w horiau arferol.

Dywedodd Fflur Jones: "Er bod na bryderon wedi'w lleisio y gallai feddwl y byddai pobl yn slacio gan wybod na fyddai rheolwyr yn cysylltu hefo nhw y tu allan i oriau gwaith, dwi'n meddwl y broblem fwya’ ydy sut ydach chi'n cysoni'r rheol sydd yn mynd i weithio ar gyfer gofalwyr, pobl sy'n gweithio yn y sectorau sy'n cefnogi'r cyhoedd, pobl sy’n gweithio mewn swyddfeydd lle mae angen bod ar gael ar fyr rybudd ac ati."

Mae'r syniad yn rhan o becyn sy'n ymwneud â hawliau gweithiwyr sydd wedi ei gyflwyno gan y Blaid Lafur.

Pe bai cyflogwyr yn torri amodau, fe all gweithwyr fynd â'u cyflogwyr i dribiwnlys. Gall hyn fod o ganlyniad i gysylltu'n gyson â'u cyflogai y tu allan i'r oriau gwaith gafodd eu cytuno. 

Er bod y Llywodraeth yn cydnabod fod gan wahanol sectorau wahanol anghenion ac y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu mewn cytundebau, sut felly mae monitro rheol o'r fath? 

Mae Fflur Jones yn awgrymu dulliau amgen i drin a thrafod y pwnc yn hytrach na chynnig rheolau llym ar gyflogwyr.

"Ydyn ni'n well yn trio addysgu pobl ac addysgu cyflogwyr ynglŷn â'r angen i warchod iechyd a diogelwch cyflogai, gofalu fod pawb yn cael amser i ffwrdd o'r gwaith, defnyddio pethau megis amserlen i ddynodi pryd mae ebyst yn cael eu gyrru allan. 

"Mae technoleg yn gallu helpu gymaint yn fan hyn," meddai.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.