Arestio dau ddyn wedi i fam a'i thri o blant farw mewn tân
Mae dau ddyn 36 a 45 oed wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn tân mewn tŷ yn Bradford a laddodd Bryonie Gawith, 29, a’i phlant Denisty, naw oed, Oscar, pump oed, ac Aubree Birtle, oedd yn 22 mis oed, meddai Heddlu Gorllewin Sir Efrog.
Mae dyn 39 oed gafodd ei arestio yn lleoliad y tân ddydd Mercher ar amheuaeth o lofruddio yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol.
Mae ysgol dau o'r plant a fu farw wedi rhoi teyrnged i’r “disgyblion hyfryd” oedd “yn llawn cymeriad ac â dyfodol disglair o’u blaenau”.
Dywedodd Ysgol Gynradd Home Farm, lle’r oedd Denisty ac Oscar yn ddisgyblion, fod eu mam “bob amser yn siriol ac yn gadarnhaol” a’u bod yn edrych ymlaen at weld Aubree yn ymuno â nhw yn y dyfodol.
Dywedodd y Pennaeth Joanne Poole: “Rydym yn deulu yn Home Farm ac mae ein calonnau wedi’u torri gan farwolaeth drasig Denisty, Oscar, Aubree a’i mam, Bryonie.
“Rydym yn gwasanaethu cymuned glos ac mae hyn yn newyddion erchyll sy’n anodd ei ddeall.
“Roedd Denisty ac Oscar yn ddisgyblion hyfryd a oedd yn cofleidio bywyd ysgol.
“Roedden nhw’n blant hapus, llawn cymeriad ac roedd ganddyn nhw ddyfodol disglair o’u blaenau."
Ychwanegodd Ms Poole: “Rydyn ni'n siarad sut y mae ysgol Home Farm yn ein calonnau ac roedden nhw'n ymgorffori hyn bob dydd.
"Roedd eu mam Bryonie bob amser yn siriol ac yn gadarnhaol - hyd yn oed y peth cyntaf yn y bore. Roedden ni’n edrych ymlaen at weld Aubree yn ymuno â ni yn y dyfodol.
"Bydd colled fawr ar eu hôl a byddant yn cael eu cofio gyda hoffter mawr.”