Tywydd garw'n effeithio ar nifer o wyliau cerddorol dros y penwythnos
Mae tywydd garw wedi effeithio ar nifer o wyliau cerddorol dros benwythnos Gŵyl y Banc.
Mae Gŵyl Leeds yn Sir Efrog wedi cau dau o'i lwyfannau am weddill y digwyddiad, gyda'r trefnwyr yn gobeithio cael ailagor trydydd llwyfan.
Cafodd trefnwyr yr ŵyl eu gorfodi i gau llwyfannau Chevron, BBC Radio 1 ac Aux ddydd Gwener, ond fe wnaethon nhw ailagor yr arena ar gyfer perfformiad Liam Gallagher nos Wener.
Daeth yr anrhefn wrth i Storm Lilan achosi gwyntoedd cryfion dros 70mya i rannau o ogledd Cymru a gogledd Lloegr, gyda rhybudd melyn mewn grym o 05.00 tan 11.00 ddydd Gwener.
Nos Wener, fe gadarnhaodd trefnwyr na fydd llwyfan BBC Radio 1 na llwyfan newydd sbon Aux yn ailagor ar gyfer perfformiadau ddydd Sadwrn a dydd Sul, a oedd yn cynnwys yr artistiaid Jorja Smith, Teddy Swims a grŵp The Wombats.
Ar ôl i'r gwyntoedd cryfion daro fore Gwener, fe wnaeth nifer golli eu pebyll, gyda fideos ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos pebyll yn hedfan drwy'r awyr.
Mae’r gwyntoedd cryfion hefyd wedi effeithio Gŵyl Creamfields yn Sir Gaer.
Cafodd dechrau'r ŵyl - sydd yn cynnwys perfformiadau gan yr artistiaid Calvin Harris, Fatboy Slim a Chase & Status - ei gohirio yn sgil y tywydd garw.
'Hwyliau drwg'
Dywedodd Gethin Skates, 19 oed o ogledd Cymru, sy’n mynychu Gŵyl Creamfields fod “nifer o bobl mewn hwyliau drwg” wedi i'w heiddo chwythu i ffwrdd.
"Roedd cwpl o bobl oedd yn fy ngwersyll i wedi penderfynu gadael ar ddiwedd y dydd oherwydd bod un o bolion eu pabell wedi torri yn y gwynt," meddai.
"Mae’r tywydd yn gwella nawr ond yn oriau mân y bore cawsom ein deffro gan wyntoedd cryfion a sŵn pebyll pobl yn disgyn i lawr ac eiddo’n chwythu i ffwrdd.
"Mae nifer o bobl mewn hwyliau drwg oherwydd y tywydd a’i effeithiau."
Ychwanegodd: "Mae’n anffodus bod pobl yn teimlo’r angen i adael, ond ni allwch wneud llawer am y tywydd mewn gwirionedd.”
Yn dilyn y tywydd garw, roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi rhybudd i deithwyr yn dilyn adroddiadau fod coed wedi syrthio ar draws ffyrdd ddydd Gwener.
Roedd Traffig Cymru hefyd wedi dweud bod cyfyngiadau mewn lle ar yr A55 dros Bont Britannia ar gyfer beiciau, beiciau modur a charafanau am gyfnod.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae tywydd mwy sefydlog ar y gorwel gyda chyfnodau braf a chawodydd gwasgaredig.