Dim achosion o mpox yng Nghymru medd corff iechyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau nad oes unrhyw achosion o mpox wedi’u hadrodd yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mewn datganiad, dywedodd y corff iechyd: “Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), Iechyd Cyhoeddus yr Alban, ac Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon, ac rydym yn barod i ymateb i achosion o mpox yng Nghymru pe baent yn digwydd.
“Mae'r risg gyffredinol i boblogaeth y DU o mpox yn parhau i fod yn isel."
Mae symptomau cyffredin mpox yn cynnwys brech ar y croen neu friwiau llawn crawn a all bara sawl wythnos.
Gall hefyd achosi twymyn, pen tost /cur pen, poenau yn y cyhyrau, poen cefn, egni isel a nodau lymff chwyddedig.
Ychwanegodd Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Os byddwch yn datblygu unrhyw symptomau o mpox, a'ch bod wedi teithio i ganolbarth Affrica yn ddiweddar neu os ydych wedi bod mewn cysylltiad ag achos wedi'i gadarnhau o mpox Clade I, ffoniwch GIG 111 neu ffoniwch eich meddyg teulu am asesiad.
"Peidiwch â mynd i gyfleuster gofal iechyd oni bai bod gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn eich cyfarwyddo i wneud hynny.”
Mae achosion o mpox yn y DU, gan gynnwys yng Nghymru, yn cael eu hadrodd ar wefan UKHSA.