Arestio plentyn 15 oed mewn cysylltiad ag ymosodiad angheuol yn yr Almaen
Arestio plentyn 15 oed mewn cysylltiad ag ymosodiad angheuol yn yr Almaen
Mae plentyn 15 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad angheuol yn yr Almaen.
Cafodd tri o bobl eu lladd a phump arall eu hanafu'n ddifrifol mewn ymosodiad â chyllell, meddai'r heddlu.
Dynion 67 a 57 oed a menyw 56 oed oedd y rhai a fu farw.
Dywedodd yr heddlu nad oedd modd diystyru cymhelliad terfysgol dros yr ymosodiad.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad mewn gŵyl yng nghanol dinas Solingen yng ngorllewin y wlad nos Wener.
Yn ôl adroddiadau yn y papur newydd Almaeneg, Bild, fe wnaeth unigolyn drywanu pobl cyn ffoi.
Nid yw'n ymddangos ei fod wedi targedu unigolion penodol yn ystod yr ymosodiad.
Roedd pobl wedi ymgasglu yn Solingen ar gyfer 'Gŵyl Amrywiaeth' i nodi 650 o flynyddoedd ers sefydlu'r ddinas sydd â phoblogaeth o 160,000.
Roedd y digwyddiad i fod i bara tan ddydd Sul, gyda sawl llwyfan yn y ddinas yn cynnig atyniadau fel cerddoriaeth fyw, cabaret a champau acrobateg.
Ond mae awdurdodau’r ddinas wedi gofyn i bobl adael yr ardal yn dilyn yr ymosodiad am tua 22:00 amser lleol (21:00 BST) nos Wener.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i drin y rhai oedd wedi eu hanfu yn y fan a'r lle.
Fe gafodd llefarydd ar ran yr heddlu, Alexander Kresta, ei ddyfynnu gan gyfryngau’r Almaen yn dweud, “rydym ar hyn o bryd yn cymryd mai un person yn unig oedd yn gyfrifol” ar ôl iddo siarad â nifer o lygad-dystion.
'Mewn sioc'
Dywedodd Maer Solingen, Tim Kurzbach, y byddai'n gweddïo dros y dioddefwyr.
Mewn datganiad ar Facebook, dywedodd: "Heno mae pob un ohonom yn Solingen mewn sioc, arswyd a thristwch mawr.
"Roeddem i gyd eisiau dathlu pen-blwydd ein dinas gyda'n gilydd a nawr mae'n rhaid i ni alaru'r meirw a'r rhai sydd wedi'u hanafu.
"Mae'n torri fy nghalon bod ymosodiad wedi digwydd yn ein dinas. Mae gen i ddagrau yn fy llygaid pan fyddaf yn meddwl am y rhai yr ydym wedi'u colli.
"Rwy'n gweddïo dros bawb sy'n dal i ymladd am eu bywydau."
Yn ddiweddar mae Llywodraeth yr Almaen wedi bod yn ceisio cryfhau rheolau ar gyllyll sy'n cael eu cario'n gyhoeddus.
Ym mis Mehefin, bu farw plismon 29 oed ar ôl cael ei drywanu yn ninas Mannheim yn ystod ymosodiad.
Llun: Wochit