Jermaine Jenas yn ymddiheuro yn dilyn ei ddiswyddiad gan y BBC
Mae Jermaine Jenas wedi dweud ei fod yn teimlo "cywilydd" ar ôl cael ei ddiswyddo gan y BBC am anfon "negeseuon amhriodol" at gydweithiwr.
Csfodd Mr Jenas ei ddiswyddo ddydd Iau yn dilyn honiadau ei fod wedi anfon y negeseuon at gydweithiwr benywaidd.
“Rwy’n teimlo cymaint o gywilydd. Rwyf wedi siomi pawb - fy nghydweithwyr, fy ffrindiau ac, yn bwysicaf oll, rwyf wedi siomi fy nheulu," meddai wrth The Sun.
Ychwanegodd fod y negeseuon a anfonodd i'r cydweithiwr yn “gamgymeriad enfawr” gan ychwanegu nad oedd yn "sex pest."
Dywedodd nad oedd "yn gwneud dim byd anghyfreithlon" a disgrifiodd y negeseuon fel rhai "amhriodol rhwng dau oedolyn oedd yn cydsynio".
Mae'r cyn pêl-droediwr dros Loegr a chlybiau Newcastle a Tottenham Hotspur yn briod ac mae ganddo bedwar o blant.
Ddydd Iau, dywedodd llefarydd ar ran y BBC: “Gallwn gadarnhau nad yw Jermaine Jenas bellach yn rhan o’n rhaglen gyflwyno.”
Nid yw'r BBC wedi gwneud sylw ers i Jenas siarad â The Sun.
Enillodd Mr Jenas rhwng £190,000 - £194,999 am ei waith ar raglenni Cwpan yr FA, Match of The Day a Chwpan y Byd gyda'r BBC.
Mae hefyd yn cael ei gyflogi gan orsaf radio talkSport lle mae'n cyflwyno rhaglen, ac yn rhan o banel o arbenigwyr pêl-droed ar sianel deledu TNT Sports.
Fe ddechreuodd ei yrfa fel pyndit, gan ddechrau cyflwyno ar ôl ymddeol o bêl-droed.
Llun: PA