Dedfrydu dyn o Ben-y-bont ar Ogwr am droseddau gwastraff
Bydd dyn o Ben-y-bont ar Ogwr yn cael ei ddedfrydu am droseddau gwastraff ar ôl pledio'n euog i ollwng gwastraff yn anghyfreithlon ar dri safle gwahanol ar draws Cymru.
Stephen Williams oedd unig gyfarwyddwr dau gwmni gwaredu gwastraff, Wenvoe Environmental Limited a Servmax Limited.
Plediodd yn euog i ollwng gwastraff a reolir drwy ddefnyddio cwmnïau heb drwydded amgylcheddol ar safleoedd yng Nghaerffili, y Bont-faen a Dolgellau rhwng Hydref 2018 a Hydref 2019.
Roedd y cyhuddiadau yn ymwneud â throseddau cysylltiedig â gweithredu safle gwastraff heb drwydded amgylcheddol a chyfuno neu gymysgu wastraff cyn ei waredu.
'Risg tân uchel'
Fe wnaeth swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru ymweld â'r safle am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2019, gan ganfod swm sylweddol o decstiliau gwastraff ar brif fuarth y fferm.
Cafodd Mr Williams ei orchymyn ar unwaith gan swyddogion i beidio â gollwng unrhyw ddeunydd pellach yno, ond mewn ymweliadau pellach, cafodd mwy o wastraff ei ddarganfod ar y safle.
Yn ôl y Gwasanaeth Tân ac Achub roedd hwn yn cael ei ystyried yn risg tân uchel.
Cafodd rhybudd cyfreithiol ei gyflwyno i Mr Williams yn gofyn iddo symud yr holl wstraff i safle cyfreithiol erbyn 30 Awst 2019, ond methodd â chydymffurfio â hynny.
Roedd y cyhuddiadau terfynol yn erbyn Mr Williams a'i ail gwmni, Servmax Limited, yn gysylltiedig â throseddau am ollwng gwastraff yn Hengwrt yn Nolgellau yn ogystal â gweithredu cyfleuster gwastraff heb drwydded amgylcheddol.
Cafodd hysbysiad cyfreithiol ei gyflwyno i Servmax Limited yn ei gwneud yn ofynnol iddynt symud y gwastraff o'r safle, ond ni wnaeth Mr Williams gydymffurfio â hyn.
'Diogelu pobl a natur'
Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher, fe wnaeth y Barnwr oedi'r ddedfryd er mwyn gallu rhoi amserlen Cais Enillion Troseddau ar waith er mwyn hawlio arian oddi wrth Mr Williams er mwyn clirio'r safleoedd ac ad-dalu perchnogion tir yn y Bont-faen.
Bydd yn cael ei ddedfrydu maes o law.
Dywedodd Uwch Swyddog Gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru Su Fernandez: "Mae rheoliadau amgylcheddol yno am reswm. Mae angen trwyddedau i fusnesau sy'n symud ac yn storio gwastraff, er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd nad yw'n peri risg i'r amgylchedd nac i iechyd pobl.
"Ni fyddwn yn oedi cyn cymryd y camau priodol i ddiogelu pobl a natur ac i helpu i ddiogelu'r farchnad ar gyfer gweithredwyr cyfreithlon."