Newyddion S4C

Colli dros 300 o swyddi yn y gogledd ddwyrain wrth i ffatri yn Sir y Fflint gau

23/08/2024
Kimberly-Clark Sir y Fflint

Fe fydd ffatri yn Sir y Fflint yn cau ei drysau am y tro olaf y flwyddyn nesaf gan arwain at dros 300 o ddiswyddiadau medd yr undeb sydd yn cynrychioli'r gweithwyr yno.

Roedd cwmni Kimberly Clark wedi ymgynghori ar gau'r safle yn gynharach yn yr haf.

Mae'r ffatri'n cynhyrchu cadachau gwlyb, ac fe ddywedodd y cwmni bod gwaharddiad Llywodraeth y DU ar ddeunyddiau plastig untro wedi ei gwneud yn amhosib i'r ffatri barhau ar agor.

Y gred yw bod dros 200 o weithwyr yn gweithio ar y safle a 100 arall yn gweithio yn y gadwyn gyflenwi'n lleol.

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Unite, Sharon Graham: "Byddai cau'r ddwy felin Kimberly Clark yn ergyd drychinebus i economi a chymunedau lleol y Fflint a gogledd Cymru yn gyffredinol. 

"Mae ein haelodau wedi'u dryllio ac fe fydd yr effaith ar yr ardal leol yn drychinebus.

"Bydd Unite yn brwydro i wrthdroi’r penderfyniad hwn ac yn galw ar y llywodraeth i ymyrryd i geisio achub y swyddi hanfodol hyn."

Mae Kimberly-Clark yn y DU yn cyflogi tua 1600 o bobl ac yn cynhyrchu deunyddiau sy'n enwau cyfarwydd ledled y byd fel Andrex, Kleenex a Huggies.

Derbyniodd y safle yn y Fflint nawdd gan Lywodraeth Cymru yn 2016 i greu 35 o swyddi ar y safle.

Llun: HYRO
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.