Newyddion S4C

Darbi de Cymru: Barn gymysg gan gefnogwyr ar ddod â chyfyngiadau teithio i ben

25/08/2024
Heledd Llewelyn a Vince Alm

Mae barn gymysg gan gefnogwyr Abertawe a Chaerdydd ar ddod â chyfyngiadau teithio cefnogwyr i ben ar gyfer darbi de Cymru.

Dydd Sul fe fydd y ddau glwb yn chwarae ei gilydd am y tro cyntaf y tymor hwn yn Stadiwm Swansea.com.

Am bron i 30 o flynyddoedd bellach mae cyfyngiadau teithio mewn lle ar gyfer cefnogwyr oddi cartref.

Mae'r cyfyngiadau yn golygu bod rhaid i gefnogwyr deithio ar fysiau o un stadiwm i'r llall, cyrraedd stadiwm y gwrthwynebwyr rai oriau cyn i'r gêm gychwyn ac mae llai o docynnau ar gael i'r clwb oddi cartref.

Dyma'r unig gêm ym Mhrydain lle mae cyfyngiadau o'r math mewn grym.

Wrth siarad â Newyddion S4C mae gan gefnogwyr farn gref am barhau neu gael gwared ar y cyfyngiadau.

"Mae’r holl ddydd yn broses hir oherwydd bod rhaid aros wrth y bysiau am gyfnod hir iawn heb wybod pryd rydym am adael," meddai cefnogwr Abertawe, Heledd Llewelyn.

"Mae’r cefnogwyr hefyd yn tueddu cyrraedd y stadiwm oddi cartref oriau cyn dechrau’r gêm, heb opsiwn o fynd unrhyw le arall.

"Mae teimlad o ddiffyg rhyddid llwyr oherwydd does dim modd rheoli amser ein hun a does dim dewis ond i fynd ar y bysiau.

"Yn bendant mae'n hen ffasiwn erbyn hyn. Mae angen edrych i dargedu'r lleiafrif o gefnogwyr sy’n achosi trafferth, yn hytrach na gosod mesurau cyffredinol dros bob cefnogwr.

"Os mae'r awdurdodau wedi llwyddo i reoli cefnogwyr o dimau pêl-droed eraill heb ddilyn cyfyngiadau bubble, does dim rheswm pam na all mesurau cael eu llacio ar gyfer gemau Abertawe yn erbyn Caerdydd."

Image
Cefnogwyr Caerdydd
Cefnogwyr Caerdydd yn brwydro gyda'r heddlu yn narbi de Cymru yn 2008. Llun: PA

Cafodd cefnogwyr oddi cartref eu gwahardd o fynychu gemau yn yr 1990au oherwydd y trais rhyngddynt, ac mae cefnogwr Caerdydd Gwenllian Evans yn meddwl bod y tensiwn hwnnw yn parhau heddiw.

"Wrth gwrs, byse hi’n neis i’r gêm beidio bod yn un bubble, ond mae’n rhaid cydnabod bod hanes hir o densiynau rhwng y ddau glwb," meddai.

"Rhaid i’r heddlu asesu’r risg a meddwl am ddiogelwch y cefnogwyr, ac os byddai codi’r bubble yn cynyddu trais a’r niwed posib iddynt, gall fod yn ormod o risg.

"Mae’r ffaith fod y gêm ddarbi hon wedi parhau yn un bubble a’r heddlu wedi penderfynu parhau gyda’r trefniadau presennol hefyd yn dweud llawer yn ei hanfod- fod y darbi yma yn un ffyrnig, a all arwain at lawer o drais ac ymladd fel arall."

Pe bai ffordd o ddod â'r cyfyngiadau i ben a sicrhau bod cefnogwyr dal yn ddiogel, byddai Ms Evans yn gefnogol o hynny.

"Mae posibilrwydd y gall yr heddlu amgylchynu cefnogwyr i sicrhau eu bod yn saff - ond mae hynny oll yn dibynnu ar allu’r heddlu eu hunain a’r lefel o risg y sy’n rhaid iddynt eu hasesu.

"Mae sicr modd meddwl am ffyrdd eraill o gadw cefnogwyr yn saff wrth ddysgu o gemau darbi eraill o amgylch y wlad."

'Dim yn teimlo'n saff'

Mae Vince Alm yn cofio'r trais rhwng cefnogwyr Abertawe a Chaerdydd yn yr 1990au a arweiniodd at osod y cyfyngiadau teithio.

Yn llefarydd Grŵp Cefnogwyr CPD Dinas Caerdydd roedd ef o blaid boicotio'r gêm yn Abertawe eleni oherwydd y cyfyngiadau, ond oherwydd ei bod mor gynnar yn y tymor fe benderfynodd foicotio tymor nesaf pe bai'r cyfyngiadau dal mewn grym.

"Mae'r cyfyngiadau wedi bod mewn lle am gyfnod rhy hir, rydym ni wedi bod yn gwthio am newid am amser hir," meddai.

"Mae'n cyfyngu ar ryddid cefnogwyr i deithio fel maen nhw eisiau. Roedd angen y cyfyngiadau pan gyflwynwyd am y tro cyntaf ond mae pêl-droed bellach wedi newid ac mae'n hen bryd i'r cyfyngiadau yma ddod i ben.

"Fel cefnogwyr mae gennych chi eich rwtîn ar gyfer gemau, ond mae hynny'n diflannu pan mae angen i chi fod yn y stadiwm tair neu pedair awr yn gynt.

"I rai cefnogwyr, maen nhw'n hoffi trafod pêl-droed gyda'r cefnogwyr cartref. Dyna sut y'ch chi'n chwalu'r rhwystr rhwng cefnogwyr, gadael iddyn nhw gymysgu a siarad gyda'i gilydd.

"Nid oes modd gwneud hynny gyda'r cyfyngiadau yma."

Image
Cefnogwr Abertawe
Cefnogwr Abertawe ar ôl i'w dîm colli yn erbyn Caerdydd yn 2011. Llun: PA

Am sawl blwyddyn bellach mae gan Tom Moore, 24 oed, tocyn tymor Abertawe.

Fel arfer mae'n cerdded i gemau ac yn gweld a siarad gyda nifer o gefnogwyr y gwrthwynebwyr.

Ond pe bai cefnogwyr yr Adar Gleision yno ar ei daith i'r stadiwm, byddai Tom o bosib yn ail-ystyried ei benderfyniad i gerdded i'r stadiwm.

"Y diogelwch yw e, fi’n cerdded fel arfer i'r gêm a heibio lle bydd ffans y timoedd eraill," meddai.

"Fi eisiau dod i wylio gêmau a dim byd arall. Achos fy oedran a bod fi’n gwisgo crys Abertawe i gemau fi’n credu bydd mwy o risg i fi pe bai cefnogwyr Caerdydd o gwmpas y lle.

"O bosib byddai'n ail-feddwl cerdded i gemau os fi'n gwybod bydd ffans Caerdydd yna.

"Ar ôl clywed y straeon am fel oedd y gêm yn y gorffennol ma’ broblemau wedi bod, fi wedi clywed straeon gan fy nhad, gemau oedd e pallu mynd i oherwydd sut o'dd e gyda'r ymladd."

'Diwrnod costus'

Nid yw pob un cefnogwr sydd yn teithio i gemau oddi cartref yn byw yn ninasoedd Abertawe a Chaerdydd.

Bellach yn byw yng Nghaerdydd ond yn wreiddiol o Lanllwni yn Sir Gaerfyrddin, mae Daniel Thomas yn adnabod rhai sydd wedi teithio o orllewin Cymru i Gaerdydd er mwyn gallu teithio i'r gêm yn Abertawe.

Pe bai'r cyfyngiadau ddim mewn lle, fyddai'r cefnogwyr yn gallu teithio i Abertawe yn syth yn hytrach na theithio i'r brifddinas yn gyntaf.

"Pe bai'r cyfyngiadau dim mewn lle, fi'n meddwl bydd y diwrnod ei hun yn fwy o achlysur," meddai.

"Bydd mwy o gefnogwyr eisiau mynd i’r gêm gan eich bod yn gallu cyrraedd y stadiwm mewn car neu drên yn lle gorfod dal bws tair neu pedair awr cyn y gic gyntaf pan mae’r stadiwm dim ond 45 munud lawr yr hewl.

"Mae’n ddiwrnod costus iawn i gefnogwyr Caerdydd sy’n dod o’r gorllewin oherwydd eu bod yn gorfod teithio i Gaerdydd i ddal bws nôl i Abertawe er mwyn gweld y gêm, a wedyn nôl i Gaerdydd i deithio nôl adre i’r gorllewin unwaith eto.

"Mae'n lawer o ffwdan a llawer o arian."

Image
Steffan Jones a Daniel Thomas
Cefnogwyr y clybiau: Steffan Jones (chwith) a Daniel Thomas (dde)

Am y pedair blynedd diwethaf mae cefnogwr Abertawe, Steffan Jones wedi bod yn teithio i gemau o'r brifddinas gan ei fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae'n teithio ar y trên ar gyfer y darbi a pe bai'r cyfyngiadau yn cael eu codi mae'n pryderu y bydd teithio ar y trên ddim yn ddiogel iddo.

"Fi 'di bod yn mynd ar drên y pedair blynedd dwetha' achos bod fi wedi bod yn fyfyriwr yng Nghaerdydd. Ma da ti’r stops rhwng y ddwy ddinas ac mae cefnogwyr y ddau glwb yn dod mlaen ar y stops yna a bydd posib clasho," meddai.

"Ond yn dibynnu ar y sgôr ar diwedd y gem fe all e fod yn waeth pe bai un tîm yn ennill.

"Bydden i ddim yn teimlo’n saff, ma lot o nhw yn mynd ar drên achos ma nhw’n cael yfed a ma’r rhai mwy boysterous falle o gwmpas, a bydden i ddim yn teimlo’n saff i fynd ar y trên o Gaerdydd i Abertawe i fod yn onest."

Oes disgwyl i'r cyfyngiadau dod i ben?

Mae'r penderfyniad ar gyfer gosod y cyfyngiadau yn cael ei wneud gan y clybiau.

Yn rhan o'r broses hynny mae Bwrdd Cynghori Diogelwch yn cyfarfod, sydd yn cynnwys cynrychiolwyr y ddau glwb a'r gwasanaethau brys.

Gofynnodd Newyddion S4C wrth Abertawe a Chaerdydd os ydyn nhw yn cefnogi neu yn erbyn y cyfyngiadau sydd mewn grym. 

Penderfynodd Abertawe i beidio rhoi sylwad tra bod Caerdydd heb ymateb i'n cais.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Steve Rees o Heddlu De Cymru bod y cyfyngiadau sydd mewn lle eisoes yn gweithio.

“Nid Heddlu De Cymru sy’n gwneud y penderfyniad ynghylch gosod cyfyngiadau teithio – cyfrifoldeb y clybiau pêl-droed eu hunain yw hyn," meddai.

“Rydym wedi cyflwyno sylwadau i’r ddau glwb a’r Grwpiau Cynghori Diogelwch perthnasol, fodd bynnag penderfyniad i’r clybiau ac nid yr heddlu yw hyn.

“Rhaid i ddiogelwch cefnogwyr pêl-droed ac aelodau’r cyhoedd fod yn flaenoriaeth i bawb sy’n ymwneud â chynllunio’r gêm ddarbi. Mae’r cyfyngiadau teithio hyn wedi bod mewn grym ers amser maith ac yn y pen draw maen nhw’n gweithio.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.