'Yr amryddawn, amlwynebog': Dewi 'Pws' Morris wedi marw yn 76 oed
'Yr amryddawn, amlwynebog': Dewi 'Pws' Morris wedi marw yn 76 oed
# A gad i ni gau y bwlch # Ha! # Pishyn del, rwyt ti'n well na'r mel!#
Yr amryddawn, amlwynebog, unigryw Dewi Pws. Wel, dyna ni.
# Bab, bab, shoo-bee-doo-wap-wap # Pishyn, pishyn, ga'i dy garu di? # Bab, bab, shoo-bee-doo-wap-wap #
Cafodd Dewi Gray Morris ei eni a'i fagu yn Nhreboeth, Abertawe, lle ymunodd ag Aelwyd yr Urdd Tabernacl Treforys ac roedd perfformio yn ei enynnau. Fel prif leisydd Y Tebot Piws daeth i sylw ehangach.
# Nawr, Cymru dewch yn llu i wrando ar fy nghan # Mae rhywbeth bach yn poeni fi yn fawr #
Be' sy'n pleser i fi yw ti'n rhan o'r band a pawb yn rhan o'r band. Dyna oedd y peth gydag Edward H a Tebot i raddau.
Ac yna fel aelod blaenllaw o'r band eiconig Edward H. Sawl un o'r caneuon a chynnwys gwleidyddol, yn son am gariad at genedl a iaith.
# Mae'n ddigon anodd cadw dy hun... #
Fe fu Dewi Pws a Cleif Harpwood yn ffrindiau oes. Wrth siarad gyda Cleif dywedodd ei fod o dan deimlad o golli Dewi oedd fel brawd.
Cyfaill triw arall yw'r DJ a'r cyflwynydd, Richard Rees.
Dw i erioed wedi cwrdd a neb tebyg iddo a wna i byth cwrdd a neb tebyg iddo. Yr hiwmor, y creadigrwydd. O'dd e mor wreiddiol ynglyn a popeth o'dd e'n wneud. O'dd e'n meddwl mewn ffordd arbennig iawn.
Beth am y waddol wedyn?
Mae 'na drysor o gerddoriaeth. Wi'n credu bod 'na waddol anhygoel. Drycha ar y caneuon. Cer yn ol dros Y Tebot Piws, Edward H. Dafis, Radwm, Mochyn 'Apus. Ac, wrth gwrs, yr holl stwff unigol. Mae 'na gannoedd o ganeuon.
# O rwy'n cofio cwrdd a ti... #
Roedd e'n gerddor naturiol. Cyfansoddodd ar hyd ei oes. Lleucu Llwyd a Nwy yn y Nen ymhlith rhai o'i ganeuon adnabyddus.
# Mae rhywbeth o'i le yn y dre #
Ar ol cyfnod byr fel athro, trodd at fyd actio. Dechreuodd ym myd pantomeim cyn troi at deledu ac ymuno a chast Pobol y Cwm fel Wayne Harries.
Ti'n disgwyl cael twrci fory wyt ti? Ble mae Dad? Dylse fe fod nol ers oesoedd.
Byddai'n ymddangos mewn sawl cyfres deledu boblogaidd ar hyd y degawdau. Caiff ei gofio am ei ran yn y ffilm, Grand Slam gyda Hugh Griffith.
Look, Dad mun! Do they do the shows here tonight, like on the posters? Of course, everything, plenty.
Erbyn bod fi'n wneud Grand Slam, o'n ni'n nabod ein gilydd yn dda. O'n i 'di cwrdd ag e yn gyntaf yn y New Ely, y dafarn lle oedd myfyrwyr Cymraeg yn cyfarfod, diwedd y '60au. O'dd e wastad yn bleser i weithio gyda fe. Wastad yn gwbl broffesiynol ond yn lot o hwyl hefyd.
Fel digrifwr a thynnwr coes fe serennodd ar rai o gyfresi cynnar mwyaf llwyddiannus S4C fel Torri Gwynt a Mwy o Wynt yn ogystal ag fel cyflwynydd Byd Pws.
O'dd dim byd yn feddwl drwg yndda fo, o'dd popeth yn hwyl. Lot fawr o chwerthin. Eto, os o'dd rhywun eisiau sgwrs go ddwys am rywbeth, bod 'na rywbeth 'di codi yn fy mywyd i o'n i wastad yn gallu chwilio amdana fo amser cinio a deud, "Ga i siarad efo chdi?" O'dd o wastad yn barod i wrando.
Un o'r bobl hyfrytaf ac anwylaf dw i erioed 'di gweithio efo nhw.
Roedd o'n Gymro i'r carn. Ymunodd mewn protestiadau'n gyson o ddyddiau cynnar Cymdeithas yr Iaith i ymgyrchoedd yn erbyn Y Bwrdd Iaith. Gwrthododd ymddangos ar Radio Cymru am gyfnod mewn gwrthwynebiad at ormod o gerddoriaeth Saesneg mewn rhaglenni.
Roedd o'n gyfuniad o rinweddau dach chi ddim yn gael yn aml. Y clown a'r dyn dwys. Y cenedlaetholwr a'r adlonnwr a'r difyrrwr. Doedd rhywun ddim yn gweld yr ochr yna iddo'n aml. Roedd o'n un oedd yn poeni'n wirioneddol am ddyfodol y Gymraeg a dyfodol Cymru.
Yn ddiweddarach, bu'n Fardd Plant Cymru a'i hoffter o blant a diddanu'n plethu'n naturiol.
Mae mwy o wallt 'da ti!
# Rwyt ti'n hardd... #
Bu Dewi Pws yn Swog yng ngwersylloedd yr Urdd yn ddyn ifanc. Parodd ei gysylltiad a'r mudiad. Dyma deyrnged y genhedlaeth bresennol iddo. Drwy ei gerddi a'i ganeuon, fydd yna ddim tewi ar Dewi.
Cafodd ei ddyrchafu i wisg wen yr Orsedd yn 2010 am ei gyfraniad i'r genedl, braint yr oedd yn falch ohoni.
This is access all areas to Wales!
Symudodd gyda'i wraig, Rhiannon, i fyw yn Nhresaith cyn symud i Ben Llyn wrth brofi tranc y Gymraeg yn y de-orllewin.
Buon ni'n byw yn Nhresaith ond o'dd y Cymry'n diflannu a'r pentref yn mynd yn lle tai haf, dienaid. Mae Pen Llyn yn un o'r llefydd mwyaf cyfforddus dw i 'di setlo ynddo.
Mae Cymraeg ymhobman a phobl yn falch o'u Cymreictod.
Actor, diddanwr, perfformiwr, bardd a thynnwr coes. Ymhlith rhestr hir o ddoniau, chwaraeodd rygbi dosbarth cyntaf. Cymro a gwen o glust i glust. Dewi Pws i'w genedl gyfan.