Newyddion S4C

Trywanu Southport: Cynnal angladd merch 'anhygoel' saith oed

23/08/2024
Angladd Elsie yn Southport

Mae angladd wedi cael ei gynnal ddydd Gwener ar gyfer "merch fach anhygoel" a gafodd ei lladd yn ystod ymosodiad trywanu yn Southport.

Bu farw Elsie Dot Stancombe, saith oed, ynghyd â Bebe King, chwech oed ac Alice da Silva Aguiar, oedd yn naw oed, yn yr ymosodiad ar Stryd Hart ar 29 Gorffennaf.

Dywedodd ei theulu eu bod yn dymuno i'r diwrnod fod yn "Ddiwrnod Arbennig Elsie" ac yn ddathliad o'i bywyd.

Fe gafodd arch Elsie ei chludo i Eglwys Sant John yn Birkdale gyda cheffyl a throl wedi ei hardduno â rhubanau pinc. 

Ar ôl cyrraedd yr eglwys, fe gafodd arch Elsie ei chario i mewn i'r adeilad ar hyd llwybr pinc gyda swigod yn cael eu chwythu i'r awyr.

Roedd pawb oedd wedi mynychu'r angladd yn gwisgo lliwiau llachar, a hynny ar ôl i deulu Elsie ofyn iddyn nhw i beidio â gwisgo du.

Image
Angladd Elsie Dot
Cerddodd rhieni Elsie y tu ôl i'r ceffyl a throl. Llun: PA

Ar ddiwedd y gwasanaeth, fe wnaeth cantores berfformio un o hoff ganeuon Elsie -  Love Story gan Taylor Swift - wrth i'w harch cael ei chludo allan.

Roedd yr eglwys yn llawn a chafodd nifer o deyrngedau eu darllen yn ystod y gwasanaeth.

Dywedodd y Parchedig Jennie Hardy fod Elsie yn "ferch fach oedd yn hoff iawn o barti mawr", gyda'i hathrawes Katie Sykes yn dweud ei bod yn "gwneud i bawb wenu dim ond trwy fod yn hi ei hun".

Cafodd teyrnged - o'r enw 'Elsie Dot gan Mam a Dad' - ei darllen hefyd.

'Merch fach anhygoel'

Roedd y deyrnged yn cofio sut roedd Elsie wedi dod a "dim byd ond hapusrwydd" i'w rhieni a'i bod yn chwaer fawr falch.

"Nid yw ei stori yn gorffen yma heddiw. Bydd ei stori yn cael ei hadrodd bob dydd gan y rhai oedd yn ei charu," meddai.

Image
Teulu Elsie Dot
Elsie gyda'i mam Jenni, ei thad David a'i chwaer tair oed Rosie. Llun: Heddlu Glannau Merswy

Mewn datganiad, dywedodd y teulu fod eu merch "yn treulio pob dydd dim ond yn mwynhau bywyd gyda dyfalbarhad, cariad a charedigrwydd".

"Roedd Elsie yn ferch fach anhygoel. Roedd ganddi'r gallu i oleuo unrhyw ystafell yr aeth i mewn iddi, roedd hi'n wirioneddol fythgofiadwy," medden nhw.

Mae Axel Rudakubana, a symudodd o Gaerdydd i Southport yn blentyn, wedi ymddangos o flaen llys ynadon wedi ei gyhuddo o'r troseddau honedig.

Cafodd Rudakubana hefyd ei gyhuddo o geisio llofruddio dau oedolyn, yr hyfforddwraig yoga Leanne Lucas a’r dyn busnes John Hayes, yn ogystal â cheisio llofruddio’r wyth o blant nad oes modd eu henwi am resymau cyfreithiol.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.