Llongddrylliad y Bayesian: Teulu Mike a Hannah Lynch 'wedi eu torri ac mewn sioc'
Mae teulu Mike a Hannah Lynch fu farw wedi i gwch hwylio'r Bayesian suddo oddi ar arfordir Sisili wedi dweud eu bod nhw "wedi eu torri ac mewn sioc".
Cafodd y corff olaf oedd ar goll ei ddarganfod ddydd Gwener, a'r gred yw mai corff Hannah Lynch, 18 oed, sef merch y biliwnydd Mike Lynch sydd wedi ei ddarganfod.
Mae hyn yn golygu bod yr holl deithwyr oedd ar goll bellach wedi’u darganfod.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau yr Eidal fod y chweched person coll, a'r olaf, wedi'i leoli ar y Bayesian ddydd Gwener.
Mewn datganiad, dywedodd teulu Mr Lynch a Hannah: "Mae'r teulu Lynch wedi eu torri, mewn sioc ac yn cael eu cefnogi a'u cysuro gan deulu a ffrindiau.
"Mae eu meddyliau gyda phawb sydd wedi'u heffeithio gan y drasiedi. Hoffent ddiolch o waelod calon i Wylwyr y Glannau yr Eidal, y gwasanaethau brys ac i bawb am helpu yn ystod yr ymgyrch achub.
"Eu un dymuniad bellach ydi bod eu preifatrwydd yn cael eu barchu yn ystod y cyfnod hwn o alar nad oes modd ei ddisgrifio."
Aeth Mr Lynch, ei ferch Hannah, cadeirydd y banc rhyngwladol Morgan Stanley Jonathan Bloomer, ei wraig Judy Bloomer, cyfreithiwr cwmni Clifford Chance Chris Morvillo a'i wraig Neda Morvillo ar goll pan suddodd y cwch hwylio tua 05:00 amser lleol ddydd Llun.
Dywedodd Mr Zagarola: “O’r eiliad gyntaf, nid yw wedi bod yn hawdd nac yn gyflym archwilio’r cwch.
“Meddyliwch am adeilad 18 llawr yn llawn dŵr.”
Mae pum corff eisoes wedi’u cludo i’r lan ym mhentref pysgota bach Porticello, tua 11 milltir o brifddinas Sisili, Palermo.
O'r 22 o deithwyr a chriw ar ei bwrdd, cafodd 15 - gan gynnwys gwraig Mr Lynch, Angela Bacares - eu hachub ar ôl dianc i fad achub.
Cafwyd hyd i gorff Recaldo Thomas a oedd yn gweithio fel cogydd ar y cwch, ddydd Llun.
Roedd y daith yn ddathliad o ganlyniad achos llys Mr Lynch mewn achos o dwyll yn yr Unol Daleithiau.
Llun: PA