Newyddion S4C

Yr heddlu'n apelio am wybodaeth ar ôl i gerbyd daro rhedwraig ym Mro Morgannwg

23/08/2024
Happy Jakes

Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad ym Mro Morgannwg rhwng rhedwraig a cherbyd.

Rhwng 17.55 a 18.10 ar ddydd Mercher 14 Awst, roedd dynes 36 oed yn rhedeg ar hyd lôn rhwng Maes Carafanau a Gwersylla Happy Jakes a'r ffordd ogleddol i Sain Tathan ger Parc Carafanau Millands pan gafodd ei tharo gan gerbyd ac ni stopiodd y gyrrwr i'w helpu.

Fe wnaeth y ddynes ddioddef "anafiadau sylweddol" er nad ydyn nhw'n cael eu disgrifio fel rhai sy'n newid ei bywyd.

Mae'r heddlu yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2400272557.

Maen nhw'n credu y byddai gan y car "ddifrod amlwg".

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.