Newyddion S4C

Pêl-droed: Craig Bellamy yn cyhoeddi ei staff hyfforddi

23/08/2024
Craig Bellamy

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru Craig Bellamy wedi cyhoeddi ei dîm hyfforddi newydd.

Mae wedi enwi pedwar o hyfforddwyr cynorthwyol i’w gefnogi gyda’r tîm cenedlaethol wrth baratoi ar gyfer gêm agoriadol Cymru yng Nghynghrair Cenhedloedd UEFA 2024/25 yn erbyn Twrci ddydd Gwener 6 Medi yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Fe benodwyd Craig Bellamy fel rheolwr newydd ar Gymru fis diwethaf ar ôl i Rob Page gael ei ddiswyddo.

Mae Bellamy wedi penodi’r canlynol fel hyfforddwyr cynorthwyol iddo:

Andrew Crofts:

Fe chwaraeodd 29 o weithiau dros Gymru o dan John Toshack, Gary Speed a Chris Coleman. Fe wnaeth ymddeol o chwarae yn 2019 ac mae wedi bod yn ddirprwy brif hyfforddwr gyda Brighton yn ddiweddar.

James Rowberry:

Mae wedi gweithio gyda chlwb Caerdydd am wyth mlynedd ac fe gafodd ei apwyntio fel Pennaeth Addysg Hyffordwyr Elît gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2023 yn dilyn cyfnod fel prif hyfforddwr Casnewydd.

Piet Cremers:

Wedi ei eni yn yr Iseldiroedd, mae wedi gweithio gyda chlybiau Brentford a Manchester City ac wedi gweithio gyda Bellamy yn ddiweddar yn Burnley.

Ryland Morgans:

Mae wedi gweithio gyda sawl clwb mawr fel Lerpwl, Crystal Palace, Everton ac Abertawe. Mae’n Athro mewn gwyddoniaeth pêl-droed ac wedi cyhoeddi dros 115 o bapurau academaidd.

Dywedodd Bellamy: “Rwy’n hapus iawn gyda’r grŵp o staff yr ydym wedi gallu dod â nhw i mewn. Rwyf wedi gweithio gyda phob un ohonynt o’r blaen, naill ai fel hyfforddwr neu fel chwaraewr. Fel grŵp, credaf fod y cydbwysedd a'r arbenigedd amrywiol rhyngom y gorau y gallem fod wedi gofyn amdano. Mae’r gwaith oddi ar y gwersyll wedi bod yn wych hyd yn hyn ac ni allaf aros i ni gwrdd â’r chwaraewyr a dechrau pethau gyda nhw.”

Yn dilyn y penodiadau, mae CBDC wedi diolch i Alan Knill, Jack Lester, Tony Roberts a Nick Davies sy’n gadael eu swyddi "am eu gwaith a’u hymroddiad” gyda’r tîm cenedlaethol. Bydd Chris Gunter hefyd yn symud ymlaen i rôl newydd gyda CBDC, fydd yn cael ei chyhoeddi maes o law.

Yn ogystal mae Matty Jones wedi arwyddo estyniad cytundeb o ddwy flynedd fel prif hyfforddwr Cymru D21 tan 2028.

Llun: CBDC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.