Newyddion S4C

Biliau ynni cartrefi i gynyddu £149 ar gyfer y gaeaf wrth i Ofgem godi'r cap ar brisiau

23/08/2024

Biliau ynni cartrefi i gynyddu £149 ar gyfer y gaeaf wrth i Ofgem godi'r cap ar brisiau

Bydd bil ynni cyfartalog cartrefi yn cynyddu 10% o fis Hydref ar ôl i’r rheoleiddiwr Ofgem ddweud eu bod yn cynyddu’r cap ar brisiau wrth i gartrefi nesáu at fisoedd y gaeaf.

Cyhoeddodd y Ofgem eu bod yn codi’r cap ar brisiau o’r £1,568 presennol ar gyfer cartref arferol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i £1,717, gan ychwanegu tua £12 y mis at fil cyfartalog.

Ond mae hyn tua £117 yn rhatach na’r cap ym mis Hydref y llynedd, a osodwyd ar £1,834.

Dywedodd Ofgem mai prisiau cynyddol yn y farchnad ynni rhyngwladol, oherwydd tensiynau gwleidyddol a digwyddiadau tywydd eithafol, oedd y prif reswm y tu ôl i'r penderfyniad.

Dywedodd prif weithredwr Ofgem Jonathan Brearley: “Rydyn ni’n gwybod y bydd y codiad hwn yn y cap prisiau yn mynd i fod yn hynod o anodd i nifer o gartrefi.

“Dylai unrhyw un sy’n cael trafferth talu eu bil wneud yn siŵr bod ganddyn nhw fynediad at yr holl fudd-daliadau y mae ganddyn nhw hawl i’w cael, yn enwedig credyd pensiwn, a chysylltu â’u cwmni ynni am gymorth a chefnogaeth bellach.”

Anogodd ddefnyddwyr hefyd i “siopa o gwmpas” ac ystyried dewis tariff cyfradd sefydlog a allai arbed arian i bobl.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.