Kamala Harris yn derbyn enwebiad y Democratiaid yn y ras arlywyddol
Kamala Harris yn derbyn enwebiad y Democratiaid yn y ras arlywyddol
Mae Kamala Harris wedi derbyn enwebiad y blaid Ddemocrataidd yn America ar gyfer y ras arlywyddol.
Wrth dderbyn yr enwebiad ar ddiwedd confensiwn y blaid yn Chicago fe addawodd yr is-arlywydd i arwain “ar gyfer pob Americanwr” a chreu “economi o gyfle”.
Mae protestiadau wedi eu cynnal drwy’r wythnos tu allan i’r neuadd gonfensiwn yn erbyn cefnogaeth America i ryfel Israel yn Gaza. Yn ei haraith fe alwodd Harris am gadoediad ond ni wnaeth annerch y protestwyr yn uniongyrchol.
Yn ei haraith fe soniodd Harris am ei phenderfyniad i fod yn gyfreithiwr ac erlynydd. “Yn ystod fy ngyrfa, roedd gen i m'ond un cleient – y bobl’” meddai.
Dywedodd fod gan America gyfle “gwerthfawr ond cyflym” i greu “ffordd newydd ymlaen”.
Ychwanegodd: "Rydym mewn brwydr ar gyfer dyfodol America."
Fe fydd Ms Harris a Tim Walz, yr enwebiad ar gyfer yr is-arlywyddiaeth, nawr yn ymgyrchu yn erbyn ymgeisydd y blaid Weriniaethol Donald Trump yn yr etholiad arlywyddol ym mis Tachwedd.