Newyddion S4C

Caerdydd: Dyn wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth menyw 45 oed

22/08/2024
Vicki Thomas

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth ar ôl digwyddiad mewn tŷ yng Nghaerdydd yn oriau mân y bore ddydd Mawrth.

Cafodd Alcwyn Thomas, 44 oed o'r Mynydd Bychan yn y brifddinas ei gyhuddo o lofruddiaeth ac mae disgwyl iddo ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerdydd fore Gwener.

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw’r fenyw a fu farw, sef, Victoria Robinson oedd yn 45 oed ac yn byw yn y tŷ ar Ffordd Caerffili.

Dywedodd ei theulu bod ei marwolaeth wedi "torri ein teulu."

“Fel teulu, rydyn ni wedi ei dryllio bod ein merch, mam, chwaer, modryb, nith a ffrind hoffus wedi cael ei chymryd i ffwrdd mewn ffordd mor drasig.

"Mae ein teulu wedi torri ac fe fyddwn ni'n ei cholli am byth."

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell: “Mae ein meddyliau gyda theulu Vicki sy’n parhau i gael eu diweddaru a’u cefnogi gan swyddogion.

“Wrth i’n gwaith ymchwiliol barhau, hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am ei chefnogaeth a’i dealltwriaeth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.