Newyddion S4C

Y BBC yn diswyddo Jermaine Jenas 'ar ôl cwynion am ei ymddygiad'

22/08/2024
Jermaine Jenas

Mae'r cyn bêl-droediwr Jermaine Jenas wedi cael ei ddiswyddo gan y BBC 'ar ôl cwynion am ei ymddygiad'.

Roedd Mr Jenas, 41, yn cyflwyno rhaglen The One Show ac yn ymddangos ar raglen bêl-droed Match of the Day

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC fod Mr Jenas "bellach ddim yn rhan o'n tîm cyflwyno".

Y gred yw fod adroddiadau am ei ymddygiad wedi cael eu codi gyda'r darlledwr ychydig wythnosau yn ôl.

Wrth ymateb i'r penderfyniad dywedodd Mr Jenas y bydd yn siarad gyda'i gyfreithwyr.

“Dydw i ddim yn gallu siarad amdano mewn gwirionedd," meddai.

"Dydw i ddim yn hapus, ond bydd rhaid i mi adael i'r cyfreithwyr ddelio â'r mater

"Mae dwy ochr i bob stori, felly dyna’r cyfan y gallaf ei ddweud ar hyn o bryd.”

Enillodd Mr Jenas rhwng £190,000 - £194,999 am ei waith ar raglenni Cwpan yr FA, Match of The Day a Chwpan y Byd gyda'r BBC.

Mae hefyd yn cael ei gyflogi gan orsaf radio talkSport lle mae'n cyflwyno rhaglen, ac yn rhan o arbenigwyr pêl-droed sianel deledu chwaraeon TNT Sports.

Fe ddechreuodd y cyn chwaraewr Newcastle a Tottenham Hotspur ei yrfa fel pyndit, gan ddechrau cyflwyno ar ôl ymddeol o bêl-droed.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.