Llongddrylliad y Bayesian: Darganfod corff y biliwnydd Mike Lynch
Mae corff y biliwnydd Mike Lynch wedi’i ddarganfod ar ôl i gwch hwylio moethus y Bayesian suddo oddi ar arfordir Sisili.
Y gred yw bod ei ferch 18 oed yn parhau ar goll.
Cadarnhaodd Gwylwyr y Glannau yn yr Eidal mai menyw yw'r chweched person sydd ar goll, a'r olaf sydd heb ei darganfod.
Aeth Mr Lynch, ei ferch Hannah, cadeirydd banc rhyngwladol Morgan Stanley, Jonathan Bloomer, ei wraig Judy Bloomer, cyfreithiwr Clifford Chance, Chris Morvillo, a'i wraig Neda Morvillo ar goll pan suddodd y Bayesian tua 05:00 ddydd Llun.
Mewn datganiad yn cadarnhau marwolaethau eu rhieni, disgrifiodd y teulu Bloomer y cwpl fel “pobl anhygoel ac ysbrydoliaeth i lawer”.
Dywedodd y teulu mewn datganiad: “Rydyn ni’n galaru am ein hanwyliaid a phawb sydd wedi’u heffeithio gan y drasiedi.
“Roedd ein rhieni’n bobl anhygoel ac yn ysbrydoliaeth i lawer, ond yn bennaf oll roeddent yn canolbwyntio ar eu teulu ac yn eu caru ac yn treulio amser gyda’u hwyrion a’u hwyresau newydd.
“Gyda’n gilydd am bum degawd, ein hunig gysur yw eu bod nhw dal gyda’i gilydd nawr.
“Mae hwn yn alar annirnadwy i’w ysgwyddo.”
Cafodd corff y pumed person a gafodd ei gludo o longddrylliad y cwch hwylio ei ddychwelyd i borthladd Porticello fore Iau.
O'r 22 o deithwyr a chriw ar ei bwrdd, cafodd 15 - gan gynnwys gwraig Mr Lynch, Angela Bacares - eu hachub ar ôl dianc i fad achub.
Roedd y daith ar cwch yn ddathliad o ganlyniad achos llys Mr Lynch mewn achos o dwyll yn yr Unol Daleithiau.
Cafodd y dyn busnes, a sefydlodd y cwmni meddalwedd Autonomy ym 1996, ei glirio ym mis Mehefin o gyflawni twyll enfawr gwerth 11 biliwn o ddoleri’r Unol Daleithiau (£8.64 biliwn) ar ôl gwerthu ei gwmni i Hewlett Packard, neu HP.
Nid yw'r penderfyniad a ddylid codi’r cwch hwylio o wely’r môr “ar yr agenda”, ond fe fydd yn y dyfodol, meddai llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau yn yr Eidal.
Dywedodd Vincenzo Zagarola wrth asiantaeth newyddion PA: “Nid yw hwn yn bwnc ar yr agenda. Fe fydd, ond nid nawr.”
Dywedodd hefyd mai damcaniaeth Gwylwyr y Glannau o hyd yw bod y ddynes sydd ar goll y tu mewn i'r cwch.
Llun: PA