Cyrff wedi cael eu darganfod ôl i gwch hwylio’r Bayesian suddo oddi ar arfordir yr Eidal
Cyrff wedi cael eu darganfod ôl i gwch hwylio’r Bayesian suddo oddi ar arfordir yr Eidal
Un o gyrff y meirw yn cael ei gario i'r lan gan dim chwilio ac achub heddiw. Y cyntaf o'r cyrff gafodd eu tynnu o weddillion y cwch ar wely'r mor.
Dydyn nhw heb gael ei hadnabod yn swyddogol eto. Corff y cogydd, Recaldo Thomas, cafodd ei ddarganfod gyntaf a hynny ddydd Llun ar ol i'r cwch suddo oddi ar arfordir Ynys Sicily.
Cafodd 15 o deithwyr ac aelodau o staff eu hachub. Mae deifwyr arbenigol wedi bod yn chwilio am chwech o bobl fu ar goll ers hynny gan geisio cael mynediad i'r cabanau cysgu.
Ymysg y rheiny ar goll ar ddechrau'r dydd oedd y dyn busnes adnabyddus o Brydain, Mike Lynch a'i ferch 18 oed, Hannah.
Yn ogystal a Jonathan Bloomer, cadeirydd banc Morgan Stanley yn Rhyngwladol a'i wraig, Judy. Y gred yw bod y cwch wedi'i daro gan rhyw fath o dornado dros y dwr gan achosi iddo suddo.
Mae'r map yn dangos y stormydd oddi ar arfordir yr Eidal ddydd Llun pan suddodd y cwch. Yr arwyddion yma'n dangos y taranau.
Hefyd, cafodd 18 corwynt eu cofnodi dros y dwr. Dydy'r rhain ddim yn anarferol adeg yma'r flwyddyn. Beth sydd yn anarferol ydy'r tymheredd ar arwyneb y mor sef tair gradd yn uwch na'r disgwyl adeg yma o'r flwyddyn, a dyma sy'n rhoi mwy o egni i stormydd.
Dros yr wythnos ddiwethaf, 'dan ni wedi gweld Mor y Canoldir yn cofnodi'r tymheredd uchaf ar arwyneb y mor ar gofnod. Mae chwech o bobl wedi marw hyd yma yn y digwyddiad erchyll hwn.
Parhau mae gwaith y timau achub heno ddeuddydd ar ol i wyliau haf ym Mor y Canoldir droi'n drychineb.