Dyfodol parc sglefrio yn Abertawe yn ddiogel wedi buddsoddiad gan gymeriad adnabyddus
Mae dyfodol parc sglefrio yn Abertawe yn ddiogel wedi buddsoddiad sylweddol gan sglefrfyrddiwr adnabyddus a thriathletwr.
Bydd parc sglefrio Exist yn ardal Mount Pleasant o'r ddinas yn defnyddio'r buddsoddiad i adnewyddu rhannau o'r adeilad a defnyddio grant gan Gyngor Abertawe a fydd yn sicrhau lles am y 10 mlynedd nesaf.
Roedd y safle £7,000 yn brin o'r targed o £75,000 pan y gwnaeth Mathew Pritchard, sydd yn sglefrfyrddiwr adnabyddus, feicio o Land's End i John O'Groats er mwyn helpu'r ymgyrch.
Fe wnaeth Mr Pritchard seiclo am gyfnod o 59.7 awr dros gyfnod o chwe diwrnod gan godi bron i £9,000.
Dechreuodd sglefrfyrddio yn 15 oed cyn sicrhau nawdd yn 21 oed a throi yn broffesiynol flwyddyn yn ddiweddarach.
"Sglefrfyrddio oedd fy mywyd i fwy neu lai, fe wnaeth roi popeth i mi," meddai.
Mae wedi ymweld â'r parc sglefrio yn Abertawe yn y gorffennol ac yn bwriadu ymweld eto yn fuan.
"Roedd hi'n braf rhoi rhywbeth yn ôl i rywbeth sydd wedi rhoi cymaint i mi," ychwanegodd.
Cafodd y parc sglefrio ei sefydlu gan Ric Cartwright a'i bartner Kate Leonard yn 2011.
Dywedodd Ms Leonard fod taith seiclo Mr Pritchard yn "gamp anhygoel" ac roedd pawb yn gysylltiedig â'r parc sglefrio wedi dilyn ei ymgyrch yn agos.
"Roedd yn ymdrech enfawr ganddo," meddai.
Fe wnaeth llefarydd ar ran Cyngor Abertawe gadarnhau y byddan nhw'n cefnogi'r safle.