Newyddion S4C

Busnesau yn gobeithio elwa o statws arbennig i'w cynnyrch

22/08/2024

Busnesau yn gobeithio elwa o statws arbennig i'w cynnyrch

Yn Nistyllfa Penderyn mae'r broses o gynhyrchu whisgi yn taro'r synhwyrau. Mae'r cwmni ifanc yn cynhyrchu rhywbeth a hanes hir yng Nghymru.

Blwyddyn ers i whisgi brag sengl dderbyn gwarchodaeth arbennig mae'r cwmni yn gweld hygrededd a statws newydd i'r ddiod. Mae'n gwarchod y brand.

Mae'n sefydlu'r brand mewn llygaid y cwsmeriaid, bod y whisgi o safon da ac o ansawdd da. Mae ennill y statws yn ffordd o nodi pwysigrwydd y diwydiant cynhyrchu whisgi i Gymru.

Mae'n ei amddiffyn rhag y posibilrwydd y bydd cwmniau eraill yn ceisio dynwared ac israddio'r enw da.

Y rheolau yw bod y prif gynnwys, rhaid bod yn barlys brag a dwr Cymreig, sy'n bwysig. Hefyd, mae gwahanol prosesau i wneud whisgi.

Rhaid iddyn nhw cael eu cyflawni tu fewn ffiniau Cymru. Gyda'r gobaith o gyrraedd marchnadoedd newydd mae whisgi wedi ymuno a chynnyrch traddodiadol Cymreig fel cig oen a chig eidion a bwyd mor fel bara lawr Penclawdd.

Mae digonedd o ddewis ym Marchnad Abertawe o gynnyrch Cymreig. Mae'r statws arbennig sydd gan bethau fel bara lawr yn golygu bod nhw'n gallu gwneud y mwyaf o safbwynt marchnata ond mae hefyd yn gwneud synnwyr o safbwynt y busnes.

Ar Fferm Glynhynod yng Ngheredigion mae Cwmni Caws Teifi yn cynhyrchu caws Caerffili.

Yn hanesyddol, ffermdai ledled Cymru oedd yn cynhyrchu'r caws ond roedd e'n cael ei werthu drwy warws yng Nghaerffili. Dyna pam, erbyn hyn, mai yng nghefn gwlad Ceredigion mae cynhwysion a chrefft creu'r caws wedi'u gwarchod yn ffurfiol.

Rydym ni a Chwmni Caws Teifi yn cynhyrchu caws ers 1982. Mae'r sgils gyda ni ac mae llaeth arbennig yn lleol achos ni angen tyfu porfa yn dda yn Nhe Cymru.

Flwyddyn ers i whisgi brag sengl ymuno a chaws Caerffili mae digon i ddathlu o safbwynt ein traddodiadau bwyd a diod.

Gobaith y cynhyrchwyr yw i fusnesau hefyd elwa o'r statws arbennig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.