Canolfan ganser arbennig i fod yn yn rhan o dreialon brechlyn newydd
Mae ysbyty yng Nghymru yn rhan o dreialon brechlyn newydd i drin canser yr ysgyfaint.
Bydd Canolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd yn un o chwe safle yn y DU a fydd yn cynnal y treialon.
Mae'r brechlyn newydd, sydd yn rhoi hwb i'r system imiwnedd i ymladd canser yr ysgyfaint wedi cael ei brofi ar glaf yn y DU am y tro cyntaf mewn ysbyty yn Llundain.
Fe allai'r brechlyn wella'r gyfradd oroesi i bobl sydd â'r canser, yn ôl yr ymchwilwyr sydd yn arwain y broses o dreialu'r brechlyn.
Janusz Racz sydd yn 67 oed ac yn byw yn Llundain oedd y person cyntaf yn y DU i dderbyn y brechlyn sydd yn cael ei adnabod fel BNT116 a'i greu gan gwmni BioNTech.
Mae'n wyddonydd ac fe gafodd ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint ym mis Mai. Ers hynny mae wedi derbyn cemotherapi a radiotherapi.
Dywedodd mai'r rheswm iddo gymryd rhan yn y treial oedd oherwydd ei yrfa.
"Y prif reswm yw fy mod i'n wyddonydd hefyd, a dwi'n deall bod y broses o ddatblygu a gwella yng ngwyddoniaeth, yn enwedig mewn maes meddyginiaeth, yn dibynnu ar bobl yn cytuno i fod yn rhan o ymchwiliad o'r math yma.
"Bydd o fudd mawr i mi, oherwydd mae'n fethodoleg newydd sydd ddim ar gael i gleifion eraill a all gael gwared ar y canser."
'Cam nesaf triniaeth canser'
Derbyniodd Mr Racz chwe brechiad yn olynol a gafodd ei roi bum munud ar wahân dros gyfnod o hanner awr ddydd Mawrth.
Roedd pob pigiad yn cynnwys llinynnau RNA gwahanol. Bydd yn cael y brechlyn bob wythnos am chwe wythnos yn olynol, ac yna bob tair wythnos am gyfanswm o 54 wythnos.
Y gobaith ydy bod y brechlyn yn rhoi hwb i'r system imiwnedd er mwyn ymateb i'r canser tra'n osgoi celloedd iach, sydd yn wahanol i gemotherapi.
Dywedodd yr Athro Siow Ming Lee, oncolegydd meddygol ymgynghorol yn Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain sydd yn arwain y treialon, fod technoleg wedi datblygu'n fawr er mwyn trin canser.
"Mae'r dechnoleg hon wedi datblygu yn hynod o gyflym," meddai.
"Mae'n hawdd i weithredu, ac fe allwch chi ddewis antigenau yn y gell ganser a'u targedu.
"Y dechnoleg hon yw'r cam mawr nesaf yn nhriniaeth canser. Rydym wedi gwneud cemotherapi... ond nawr rydym ni eisiau ychwanegu ffordd arall o ddelio gyda hwn, ac rydym yn gobeithio y bydd yn llwyddiannus."
Bydd y treialon yn cael eu cynnal mewn 34 safle ymchwilio mewn saith gwlad, chwech ohonyn nhw wedi eu lleoli yng Nghymru a Lloegr.
Ar y cyfan, y gobaith yw y bydd 130 o gleifion canser yn cymryd rhan, 20 ohonyn nhw yn y DU.
Ym mis Gorffennaf 2023, llofnododd Llywodraeth y DU gytundeb gyda BioNTech i ddarparu triniaeth imiwnotherapïau canser i hyd at 10,000 o gleifion erbyn 2030.
Llun: Aaron Chown/PA