Clwb o Bowys yn cyrraedd rownd derfynol Clwb Ffermwyr Ifanc Gorau Prydain
Clwb o Bowys yn cyrraedd rownd derfynol Clwb Ffermwyr Ifanc Gorau Prydain
Mae clwb o Bowys wedi llwyddo i sicrhau lle ar restr fer Clwb Ffermwyr Ifanc Gorau yng Ngwobrau Ffermio Iau Prydain.
CFfI Ystradfellte yw’r unig glwb o Gymru i gyrraedd rownd derfynol y categori.
Mae gan y clwb, gafodd ei sefydlu yn 1947, 27 o aelodau - sydd yn llai na llawer o glybiau ffermwyr ifanc yng Nghymru.
Fodd bynnag, mae’r gymuned o gwmpas y clwb a’r hyn mae’n ei gyfrannu ato wedi sicrhau llwyddiant iddyn nhw.
Dywedodd cadeirydd y clwb, Chloe Smith: “Mae’n ein rhoi ar y map.
“Doedd dim llawer o bobl yn gwybod am Ystradfellte, ond dwi’n meddwl eu bod nhw erbyn hyn.
“Dy’n ni ddim yn gwneud cymaint o gystadlaethau â chlybiau eraill, ry’n ni’n ymwneud yn fwy â’r gymuned. Felly, dwi’n meddwl bod hynny yn gwneud inni sefyll allan yn fwy.
'Fel teulu'
Mae nifer o'r aelodau yn ddiolchgar iawn i'r clwb.
Dywedodd Emily Davies: “Ry’n ni fel teulu, pob un ohonom ni… ry’n ni’n glwb bach â chalon fawr.
“Ry’n ni’n gwneud pethau fel y daith dractorau - un yn y gaeaf ac un yn yr haf.
“Mae yna lawer o bobl yn mynd allan i’w gwylio - yn hen ac ifanc.”
Ychwanegodd Mali Gwen Lewis: “Mae wedi datblygu fy hyder i’n ofnadwy… dwi wedi creu ffrindiau am byth.”
Wrth adlewyrchu ar ei gyfnod fel aelod, dywedodd Emyr Morgan: “Rwyt ti’n cael dy fwrw i’r dwfn - ond rwyt ti’n cael dod i adnabod pawb o Bowys.
“Rwyt ti’n cael cwrdd â channoedd os nad miloedd o bobl.
“Rwyt ti’n gwneud amrywiaeth o weithgareddau, o waith coed, i weldio a barnu stoc - ac o gefndir amaethyddol, mae angen y cyfan arnoch chi.”
Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal ddiwedd y mis yn Fferm Neuadd Cannon, Sir Efrog.